‘Siom fawr’: Ynys Môn yn tynnu yn ôl o gynnal Gemau’r Ynysoedd yn 2027
Mae Ynys Môn wedi tynnu yn ôl o gynnal Gemau’r Ynysoedd Rhyngwladol yn 2027 am resymau ariannol.
Roedd yr ynys yn fod i gynnal y gemau aml-gamp am y tro cyntaf yn eu hanes yn 2027, ar ôl bod yn rhan o Gemau’r Ynysoedd ers eu cychwyn, yn 1985.
Ond, daeth cyhoeddiad ddydd Gwener gan Gymdeithas Gemau'r Ynysoedd yr ynys na fyddai nhw'n cael eu cynnal ar Fôn bellach, gan ddweud bod y “pandemig Covid a digwyddiadau eraill ar draws y byd” wedi cael effaith “ddinistriol” ar sefyllfa ariannol y gemau.
Bydd y gemau nawr yn cael eu cynnal yn yr Ynysoedd Ffaroe, yn Nenmarc.
Dywedodd Pwyllgor Gemau’r Ynysoedd Ynys Môn y byddai'n “adolygu’r sefyllfa ariannol yn flynyddol” yn y gobaith o’u cynnal yn y dyfodol.
Dywedodd Gareth Parry, Cadeirydd Pwyllgor Trefnu Gemau’r Ynysoedd Ynys Môn: “Rydym yn hynod siomedig o fod wedi dod i’r penderfyniad anodd nad ydym mewn sefyllfa i gynnal Gemau’r Ynysoedd yn 2027.
Inline Tweet: https://twitter.com/IslandGamesAsso/status/1738215957976220081?s=20
“Mae effaith y pandemig a digwyddiadau eraill ar draws y byd dros y blynyddoedd diwethaf wedi cael effaith ddinistriol ar y sefyllfa ariannol bresennol ar Ynys Môn a Chymru.
“Roeddem wedi sicrhau digon o gyllid wrth gyflwyno ein cynnig cyn Covid, gyda chymorth gan yr awdurdod lleol, yr Ymddiriedolaeth Elusennol a Llywodraeth Cymru, ond fe wnaeth adolygiad diweddar amlygu bwlch ariannu sylweddol yn y gyllideb, nad ydym yn gallu ei gwrdd yn yr hinsawdd ariannol bresennol.
“Mae dros saith mlynedd o waith caled wedi mynd i'n cyrraedd i'r sefyllfa hon, ac er ein bod yn hynod siomedig, mae'r risgiau sy'n gysylltiedig â pharhau ar hyn o bryd yn rhy uchel.
“Fodd bynnag, rydym ni a’n partneriaid mor ymroddedig ag erioed i ddod â’r Gemau gwych hyn i Ynys Môn a byddwn yn adolygu ein sefyllfa yn flynyddol gyda’r bwriad o roi ein hunain ymlaen eto cyn gynted ag sy’n ymarferol.”
'Costau cynyddol'
Mae’r gemau yn cael eu cynnal bob dwy flynedd ar gyfer ynysoedd ledled y byd.
Roedd dros 2,000 o athletwyr o 25 ynys - gan gynnwys Ynysoedd Cayman, Menorca, Gibraltar - wedi cymryd rhan yng Ngemau'r Ynysoedd eleni yn Guernsey.
Roedd 120 o athletwyr o Fôn wedi teithio yno dros yr haf, gan osod record newydd o'r nifer o fedalau wedi eu hennill gan dîm o Fôn, wedi iddyn nhw lwyddo i gipio cyfanswm o 18 medal.
Dywedodd Jorgen Pettersson, Cadeirydd Cymdeithas y Gemau Ynysoedd Rhyngwladol (IIGA): “Mae’r IIGA yn deall yn iawn fod y byd wedi newid ers i Ynys Môn wneud ei gais gwreiddiol yn 2018. Mae costau cynyddol a thoriadau cyffredinol yn heriol i bawb.
“Mae'r IIGA yn gwerthfawrogi pa mor agored yw tîm Ynys Môn a'u hymagwedd at ganiatáu i'r Pwyllgor Gwaith chwilio am gartref arall i'r gemau a hynny mewn digon o amser i gyflawni hyn. Mae'r IIGA yn edrych ymlaen at weld Ynys Môn yn cyflwyno cais newydd yn y dyfodol”.
Dywedodd David Tommis, Cadeirydd Cydeithas Gemau'r Ynysoedd Ynys Môn: “Mae’n siom fawr fod Cymdeithas Gemau’r Ynysoedd Ynys Môn yn gorfod cyhoeddi ein bod wedi gorfod tynnu’n ôl o gynnal Gemau’r Ynysoedd yn 2027 am resymau y tu hwnt i’n rheolaeth.
"Rwy’n mawr obeithio y bydd yr Ynys yn gallu cynnal y digwyddiad yn y dyfodol.”
Llun: Cymdeithas Gemau'r Ynysoedd Ynys Môn