Cyflenwad tanwydd awyren Air India 'wedi ei ddiffodd' cyn iddi blymio

Damwain Air India

Cafodd cyflenwad tanwydd awyren Air India a blymiodd i'r ddaear fis diwethaf, gan ladd 241 o bobl ar ei bwrdd, ei ddiffodd ychydig eiliadau cyn i'r ddamwain ddigwydd yn ôl casgliadau cynnar adroddiad i’r drychineb.

Mae cofnod o leisiau'r peilotiaid yn awgrymu bod dryswch rhwng y ddau, gyda un yn gofyn pam gafodd y tanwydd ei ddiffodd, a'r llall yn gwadu gwneud hynny.

Plymiodd yr awyren Boeing 787 Dreamliner yn fuan ar ôl codi i'r awyr ar 12 Mehefin, wrth adael dinas Ahmedabad yn India am Lundain.

Dywedodd yr adroddiad gan y Swyddfa Ymchwilio i Ddamweiniau Awyrennau, a gyhoeddwyd yn hwyr nos Wener, fod yr awyren yn cario 54,200kg o danwydd ar y pryd, a oedd o fewn y “terfyn" oeddyn cael ei ganiatáu.

Dywed yr adroddiad: “Cyflawnodd yr awyren y cyflymder awyr uchaf a gofnodwyd o 180 Not IAS tua 08:08:42, ac yn syth wedi hynny, newidiodd switshis torri tanwydd Injan 1 ac Injan 2 o safle RUN i CUTOFF un ar ôl y llall gyda bwlch amser o 01 eiliad. 

"Dechreuodd Injan N1 ac N2 ostwng o’u gwerthoedd esgyn wrth i’r cyflenwad tanwydd i’r injans gael ei dorri.

“Yn y recordiad llais, clywir un o’r peilotiaid yn gofyn i’r llall pam y gwnaeth dorri'r cyflenwad i ffwrdd. Atebodd y peilot arall nad oedd wedi gwneud hynny.”

Tra bod yr injans yn dechrau aildania, fe wnaeth un o'r peilotiaid drosglwyddo'r neges "mayday, mayday, mayday" cyn i'r awyren blymio i'r ddaear.

Teithwyr

Lladdwyd 241 o bobl oedd ar yr awyren yn y ddamwain a goroesodd un teithiwr, tra bu farw 19 o bobl eraill oedd ar y ddaear, ac fe anafwyd 67 yn ddifrifol.

Cwympodd yr awyren a tharo hostel coleg meddygol mewn ardal breswyl o Ahmedabad.

Mae'r adroddiad yn nodi: "Dinistriwyd yr awyren ar ôl taro adeiladau ar y ddaear a'r tân dilynol.

"Dinistrwyd cyfanswm o bum adeilad wedi difrod strwythurol a thân mawr."

Yr unig deithiwr a oroesodd oedd y Prydeiniwr Vishwash Kumar Ramesh, a ddywedodd wrth The Sun ar y pryd ei bod yn "wyrth" ei fod yn fyw ond roedd yn teimlo'n "ofnadwy" na allai achub ei frawd Ajay.

Peilotiaid

Roedd y ddau beilot, a oedd wedi'u lleoli ym Mumbai ac oedd wedi cyrraedd Ahmedabad y diwrnod cynt, wedi cymryd "cyfnod gorffwys digonol" cyn yr hediad meddai'r adroddiad.

Cofnodwyd bod y criw, a oedd wedi cael profion anadl yn gynharach, yn addas i weithio ar y diwrnod.

Ni welwyd unrhyw weithgarwch adar sylweddol ger llwybr hedfan yr awyren, a dechreuodd yr awyren golli uchder cyn croesi wal berimedr y maes awyr.

Cafodd y ddwy injan eu hadfer o'r safle a'u rhoi dan gwarantîn mewn hangar yn y maes awyr cyfagos.

Mae ymchwilwyr wedi nodi "cydrannau o ddiddordeb ar gyfer archwiliadau pellach," meddai'r adroddiad.

Roedd samplau tanwydd a gymerwyd o danciau a ddefnyddiwyd i ail-lenwi'r awyren yn "foddhaol".

 

 
 
 
 
 
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.