
Gêm rygbi i gofio am 'Gymro balch' fu farw mewn damwain hofrennydd
Bydd gêm rygbi yn cael ei chynnal ddydd Sadwrn i gofio am beilot o'r Bont-faen fu farw mewn damwain hofrennydd y Llynges.
Bu farw'r Is-gapten Rhodri Leyshon yn 31 oed pan blymiodd ei hofrennydd Merlin i'r Sianel yn ystod ymarferion hyfforddi ar 4 Medi'r llynedd.
Er mwyn nodi blwyddyn ers ei farwolaeth, bydd gêm rygbi yn cael ei chynnal yng nghartref tîm Rygbi Caerdydd ym Mharc yr Arfau yn y brifddinas.
Bydd milwyr a chyn-filwyr oedd yn adnabod y Cymro yn chwarae yn erbyn Clwb Rygbi'r Bont-faen, lle'r oedd yn arfer chwarae, brynhawn Sadwrn.
Mae disgwyl i'r gêm ddechrau am 17.30 a hynny yn dilyn gêm Rygbi Caerdydd yn erbyn Esher am 15.00.
Y bwriad ydi codi arian ar gyfer elusen Ambiwlans Awyr Cymru er cof amdano.
'Cymro brwd a balch'
Yn ôl ei ffrind a'i gyd-weithiwr, Isaac Salt o Plymouth, mae'r digwyddiad yn gyfle i gofio Rhodri fel mwy na pheilot.
"Mae'n gyfle i gofio elfennau craidd amdano fo, y tu hwnt i'r Llynges a thu hwnt i hedfan," meddai wrth Newyddion S4C.
"Mi oedd o'n beilot am chwe mlynedd ac yn rhan o'r Llynges am 11 o flynyddoedd, ond mi oedd o hefyd yn Gymro am 31 o flynyddoed ac wedi chwarae rygbi am 20 o'r blynyddoedd hynny – dyma ddau ffactor enfawr a'i gwnaeth yn bwy oedd o.
"Felly, mae cael mynd i chwarae ei gamp yn ei wlad enedigol, yn erbyn ei dref enedigol, yn gyfle i ddangos mwy amdano na'r ffaith ei fod yn y fyddin."

Dywedodd Mr Salt bod yr Is-gapten Leyshon, a oedd yn byw yng Ngwlad yr Haf adeg ei farwolaeth, yn falch iawn o'i wreiddiau.
"Roedd yn Gymro brwd a balch, yn Gymro angerddol. Roedd yn ddoniol, yn dda iawn yn ei waith ac yn athletwr talentog iawn," meddai.
"Roedd yn chwaraewr rygbi talentog iawn ac yn chwarae i safon eithaf uchel yng Nghymru.
"Yn sail i bob dim oedd ei angerdd dros Gymru, rygbi Cymru a'i dref enedigol."

Ychwanegodd Mr Salt ei fod wedi ei "synnu" gan y gefnogaeth o Gymru ers ei farwolaeth.
"Mae nifer o bobl wedi estyn allan oherwydd eu bod nhw'n gwybod ei fod yn Gymro," meddai.
"Ac maen nhw wedi rhoi llawer o arian a chefnogaeth i ni a hynny ar y sail ei fod yn gydwladwr."
Fe wnaeth yr Is-gapten Leyshon chwarae i Glwb Rygbi’r Bont-faen, Prifysgol Metropolitan Caerdydd ac Uned Lynges Frenhinol Prifysgol Cymru.
Fe gafodd hefyd gyfle i fod yn rhan o daith rygbi cyn-fyfyrwyr Coleg Llynges Frenhinol Britannia o amgylch America.
Yn dilyn hynny fe wnaeth arbenigo fel peilot hofrennydd y llu, gan gymhwyso yn 2018.
Fel rhan o'i waith fe gwblhaodd sawl lleoliad dramor, gan gynnwys i'r Caribî, yr UDA a Norwy.