Cymru allan o Gwpan Rygbi'r Byd yn dilyn crasfa yn erbyn Canada
Mae Cymru allan o Gwpan Rygbi'r Byd ar ôl colli yn erbyn Canada o 0-42 yng Nghwpan Rygbi'r Byd yn Salford ddydd Sadwrn.
Gyda'r Alban yn curo Ffiji yn hwyrach yn y prynhawn mae hyn yn golygu bod gobeithion Cymru o fynd trwyddo i'r rowndiau nesaf ar ben gydag un gêm yn weddill yn erbyn Ffiji ddydd Sadwrn nesaf.
Roedd prif hyfforddwr Cymru Sean Lynn wedi gwneud saith o newidiadau i'r tîm gollodd mor siomedig yn erbyn yr Alban wythnos yn ôl i herio Canada sy'n ail ar restr detholion y byd ac yn un o ffefrynnau i ennill y gystadleuaeth.
Fe ddechreuodd Cymru'r gêm gyda llawer mwy o bwrpas gan fwynhau mantais y chwarae yn y deng munud agoriadol gan ymosod nifer o weithiau i mewn i 22 Canada.
Ond ofer fu eu hymdrechion ac roedd profiad ac amynedd Canada yn amlwg wrth iddyn nhw wrthsefyll her y Cymry oedd yn chwarae yn y crysau gwyn.
Fe gododd Canada eu gêm wedi hynny gan ymosod tuag at llinell gais Cymru.
Fe groesodd y prop McKinley Hunt o dan y pyst yn dilyn cyfnod o bwysau gyda'r ail reng Sophie de Goede yn trosi. Cymru 0-7 Canada.
Fe aeth Canada ymhellach ar y blaen ar ôl 25 munud yn dilyn symudiadau o gyd-chwarae bendigedig fel tîm gyda'r asgellwr Alysha Corrigan yn croesi a de Goede yn trosi. Cymru 0-14 Canada.
Er gwaethaf y dechrau da gan Gymru, roedd Canada nawr yn dangos eu haeddfedrwydd a goruchafiaeth ym mhob elfen o'r gêm. Fe groesodd Hunt am ei hail gais ar ôl 28 munud.
Yn fuan wedyn fe groesodd yr asgellwr chwith Asia Hogan-Rochester yn dilyn rhediad o'r hanner ffordd gyda chymorth taclo gwan gan Gymru.
Fe drosodd de Goede'r ddau gais.
Y sgôr ar yr hanner: Cymru 0-28 Canada.
Canada ar y blaen
Fe groesodd Canada y llinell gais unwaith eto ar ôl 46 munud ond roedd y bêl wedi'i tharo ymlaen yn gynharach yn y symudiad. Ond fe dderbyniodd wythwr Cymru Georgia Evans gerdyn melyn yn ystod y symudiad i ychwanegu at broblemau ei thîm.
Fe gymrodd Canada fantais o hyn gan groesi am eu pumed cais ar ôl 49 munud gan y maswr Taylor Perry a de Goede yn trosi eto. Cymru 0-35 Canada.
Daeth chweched cais i Ganada ar ôl 54 munud gan yr eilydd Brittany Kassil ac roedd anelu de Goede yn gywir eto am y trosiad. Cymru 0-42 Canada.
Fe dderbyniodd eilydd Canada Olivia DeMerchant gerdyn melyn am dacl beryglus a thro Cymru oedd hi i gymryd mantais o hyn gan groesi'r llinell gais.
Roedd yn ymddangos bod Cymru wedi sgorio ond dywedodd y dyfarnwr nad oedd y bêl wedi'i thirio ac ni wnaeth gyfeirio at y dyfarnwr teledu chwaith.
Canada wnaeth reoli'r chwarae tan ddiwedd y gêm ac fe gafodd tynged Cymru ei selio yn dilyn buddugoliaeth yr Alban o 29-15 yn erbyn Ffiji yn hwyrach brynhawn ddydd Sadwrn.
Y sgôr terfynol: Cymru 0-42 Canada.
Llun: Asiantaeth Huw Evans