Tri wedi arestio mewn protest tu allan i westy lle mae ceiswyr lloches yn aros

Llun: PA
Gwesty'r Bell, Epping

Mae tri dyn wedi eu harestio ar ôl i heddweision gael eu hanafu mewn protest tu allan i westy lle mae ceiswyr lloches yn aros yn Epping, yn ne ddwyrain Lloegr.

Digwyddodd y brotest tu allan i Westy'r Bell nos Wener wedi i gwmni Somani Hotels, sy'n berchen ar y gwesty, a'r Swyddfa Gartref herio dyfarniad yr Uchel Lys a fyddai wedi atal 138 o geiswyr lloches rhag cael llety yno y tu hwnt i 12 Medi.

Cafodd y gorchymyn cyfreithiol dros dro, a oedd fod i rwystro ceiswyr lloches rhag cael llety yn y gwesty, ei wrthdroi yn y Llys Apêl.

Dywedodd Heddlu Essex bod un dyn wedi cael ei arestio ar amheuaeth o anhrefn treisgar, un dyn wedi arestio ar amheuaeth o ymosod ar heddwas a thrydydd dyn wedi arestio ar amheuaeth o yfed a gyrru ar ôl i gar gael ei yrru ar ochr anghywir y ffordd tuag at cordon heddlu.

Mae'r tri yn parhau yn y ddalfa, meddai'r llu.

Roedd gan sawl un o'r protestwyr baneri Lloegr a Jac yr Undeb.

Dywedodd y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Glen Pavelin: "Mae protestio yn hawl ddemocrataidd, a byddwn yn gwneud pob dim o fewn ein gallu i ganiatáu hynny, i bob grŵp sydd eisiau lleisio barn.

"Roedd y rhan fwyaf o bobl yn Epping nos Wener eisiau lleisio eu barn ac roeddynt wedi gwneud hynny mewn ffordd ddiogel nad oedd angen ymateb yr heddlu.

"Fodd bynnag, mae'r hawl i brotest ddim yn cynnwys hawl i droseddu a nos Wener roedd rhai wedi cael eu harestio.

"Dioddefodd ddau heddwas anafiadau, sydd ddim yn ddifrifol diolch byth."

Daeth The Bell yn ganolbwynt i sawl protest a gwrth-brotest yn ystod yr wythnosau diwethaf ar ôl i geisiwr lloches a oedd yno gael ei gyhuddo o ymosod yn rhywiol ar ferch yn ei harddegau fis diwethaf.

Mae Hadush Gerberslasie Kebatu wedi gwadu'r drosedd ac mae ei achos llys wedi cychwyn yr wythnos hon.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.