O'r Barri i Kazakhstan drwy 12 gwlad i wylio Cymru

Llun: John McAllister
John McAllister

Fis yn ôl fe wnaeth dyn o'r Barri gychwyn ar ei daith i Kazakhstan i wylio tîm dynion Cymru yn chwarae yno am y tro cyntaf.

Ond yn lle hedfan fel y mwyafrif o gefnogwyr sydd am fynd i'r gêm, penderfynodd John McAllister osod her iddo'i hun o deithio drwy Ewrop er mwyn cyrraedd yno.

"Yn ymarferol, fe fyddai wedi bod llawer haws i mi hedfan," meddai wrth Newyddion S4C.

"Ond roedd gen i dipyn o amser sbâr, a dwi wedi dechrau gwneud fideos YouTube ac wedi meddwl fe fyddai'n syniad da ceisio gwneud rhywbeth bach yn wahanol.

"Dyw tripiau Wales Away ddim yn dod yn llawer mwy egsotig na hyn, felly roeddwn i'n meddwl y byddai'n ddiddorol archwilio gwledydd gwahanol a llefydd byddai pobl ddim fel arfer yn teithio."

Image
John McAllister yn Slofenia
John McAllister yn Slofenia. (Llun: John McAllister)

O gychwyn y daith yng ngorsaf drenau'r Barri, mae John wedi ymweld â Lloegr, Ffrainc, Gwlad Belg, yr Iseldiroedd, yr Almaen, Slofenia, Croatia, Serbia, Bwlgaria, Twrci a Georgia ar ei ffordd i Kazakhstan.

Mae wedi profi diwylliant sawl gwlad, gan flasu bwydydd traddodiadol, mwynhau adeiladau hanesyddol a thirlun pob gwlad.

Ar hyd y daith mae'r Cymro wedi cymryd rhan mewn sawl gweithgaredd, ac fel cefnogwr pêl-droed brwd mae wedi gwylio gemau mewn gwledydd newydd.

Mae'r holl daith wedi bod yn brofiad anhygoel iddo, meddai.

Mae wedi bod i dros 700 o gemau mewn 258 o stadiymau gwahanol yn y gorffennol, a hynny mewn 46 gwlad ledled y byd.

"Dwi wedi bod i 12 gwlad i gyd ac mae wedi bod yn brofiad anhygoel," meddai.

"Mae wedi bod yn wych, hollol wych. O ymweld â llefydd byddwch chi byth yn mynd i, i weld llefydd dwi wedi eisiau eu gweld ers amser maith.

"Dwi wedi cwrdd â phobl fendigedig ar y daith, a dyna pam dwi'n hoff o wneud pethau ar ben fy hun. Chi'n cwrdd â phobl ac yn gwneud pethau gwahanol.

"Yn nhermau pêl-droed, heb amheuaeth, gwylio Fenerbahçe yn erbyn Feyenoord yn Istanbul yng Nghynghrair y Pencampwyr ydy'r uchafbwynt.

"Honna yw un o'r tair gêm orau dwi wedi ei weld yn fy mywyd, heb sôn am ar y daith yma."

Image
Yn y dorf yn gwylio Fenerbahçe yn erbyn Feyenoord. Llun: John McAllister
Yn y dorf yn gwylio Fenerbahçe yn erbyn Feyenoord. (Llun: John McAllister)

'Gwerthfawrogiad'

Bellach mae John wedi cyrraedd Kazakhstan. Cyrhaeddodd ochr orllewinol y wlad cyn teithio draw i'r de-ddwyrain, i ddinas fwyaf y wlad, Almaty.

Nid yw tîm dynion Cymru erioed wedi chwarae yn Kazakhstan, a bydd dros 1,000 o aelodau'r Wal Goch yn teithio i Astana ar gyfer y gêm ar 4 Medi.

Wrth siarad â'r wasg ddydd Iau dywedodd Craig Bellamy ei fod yn ddiolchgar i gefnogwyr Cymru, gan gyfeirio at John yn benodol.

"Dwi'n credu bod un cefnogwr wedi gadael tua mis yn ôl, mae rhaid i ni weld e," meddai.

Dywedodd John McAllister bod sylwadau Bellamy yn syndod mawr iddo.

"Mae'n syrpreis, doeddwn i yn sicr ddim yn disgwyl unrhyw beth fel'na," meddai.

"I gyfarfod ef a'r garfan, byddwn i wrth fy modd. Dyma werthfawrogiad o'r lefel uchaf posibl, rheolwr y tîm cenedlaethol."

'Swreal'

Erbyn hyn mae sawl cefnogwr wedi dechrau ar y daith i Kazakhstan.

Bydd sawl un yn teithio i wledydd cyfagos fel Uzbekistan a Kyrgyzstan yn ystod eu taith, ac mae John yn edrych ymlaen at weld sawl Cymro yn Astana.

"Dwi'n meddwl y bydd e'n swreal gweld holl gefnogwyr Cymru," meddai.

"Oherwydd fy mod i wedi teithio ar ben fy hun hyd yma, fe fydd yn od gweld pobl dwi'n 'nabod.

"Mae'r ymateb i'r her gan bobl dwi'n 'nabod a phobl dwi ddim wedi bod yn anhygoel.

"Felly dwi'n siŵr y byddai'n siarad gyda sawl un ohonynt yn Astana wythnos nesaf."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.