Cynnydd mewn defnydd o AI gan fyfyrwyr prifysgol

llun o bobl yn gweithio

Mae cynnydd wedi bod yn y nifer o israddedigion byd-eang sy’n defnyddio deallusrwydd artiffisial (AI) er mwyn eu helpu i ysgrifennu eu hasesiadau, yn ôl arolwg newydd.

Mewn gwaith ymchwil gan y Sefydliad Polisi Addysg Uwch (Higher Education Policy Institute) gyda 1,054 o fyfyrwyr, dywedodd y rhan fwyaf o israddedigion eu bod yn defnyddio AI er mwyn eu helpu i ysgrifennu aseiniadau. 

Mae nifer o fyfyrwyr yn yr arolwg yn dweud eu bod yn defnyddio mwy ar AI er mwyn llunio testun yn uniongyrchol ar gyfer eu gwaith.   

Dywedodd Charlotte Armstrong, cyd-awdur yr arolwg fod llawer o fyfyrwyr yn teimlo nad ydynt yn cael digon o gefnogaeth er mwyn datblygu eu sgiliau AI yn effeithiol.

“Os yw Prifysgolion eisiau eu graddedigion i deimlo eu bod yn barod ar gyfer y dyfodol, yna ddylent gynnwys llythrennedd a’r defnydd cywir o ddeallusrwydd artiffisial yn y cwricwlwm. Ni all y sgiliau yma gael eu trin fel dewisiadau'n unig.”

Mae'r defnydd o ddeallusrwydd artiffisial yn eu gwaith wedi hollti barn israddedigion. 

Mae rhai yn dweud ei fod yn eu galluogi i gael mwy o amser i feddwl yn feirniadol, gydag eraill yn credu bod AI yn eu hatal rhag defnyddio eu hymennydd.   

Yr Arolwg 

Yn yr arolwg, dywedodd 94% eu bod wedi defnyddio AI unwaith, gyda 95% yn cyfaddef eu bod wedi ei ddefnyddio i'w helpu gyda’u hasesiadau. 

Roedd y nifer o fyfyrwyr oedd yn dweud eu bod yn defnyddio AI yn eu hasesiadau wedi cynyddu 12% y flwyddyn yma.

Dywedodd 65% o fyfyrwyr gafodd eu holi bod AI wedi newid eu hasesiadau prifysgol yn fawr. Ond dywedodd 42% o’r arolwg nad ydynt yn ei ddefnyddio, rhag ofn iddynt dderbyn cyhuddiadau o dwyllo.

Fe ddywedodd 49% o'r rhai gafodd eu holi bod deallusrwydd artiffisial wedi gwella eu profiad fel myfyriwr, gyda 16% yn teimlo ei fod wedi gwaethygu eu profiad prifysgol.

Dywedodd 15% o’r arolwg eu bod yn defnyddio AI er mwyn derbyn cyngor, cwmnïaeth neu achos eu bod yn unig.

Roedd nifer o fyfyrwyr o Brifysgolion Russell yn cytuno ac anghytuno eu bod yn cael eu hannog i ddefnyddio deallusrwydd artiffisial. 

Prifysgolion 

Mae'r Sefydliad Polisi Addysg Uwch, a oedd yn cynnal yr arolwg, yn argymell i brifysgolion gynnal cyflwyniad a chefnogaeth ar ddefnyddio AI ar gyfer eu holl fyfyrwyr. 

Dylid cynnal hyfforddiant ar gyfer eu staff a chyhoeddi arweiniad clir ar ei defnydd, a sicrhau fod pob myfyriwr yn medru cael mynediad cyfartal at AI, gan ystyried addasu’r cwricwlwm i ddysgu sgiliau wrth ei ddefnyddio meddai'r corff. 

Ym mis Chwefror, dywedodd chwarter o ddarlithwyr a atebodd arolwg gan Coursera eu bod yn teimlo’n hyderus yn adnabod defnydd o ddeallusrwydd artiffisial mewn gwaith.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.