Rhybudd melyn am wyntoedd cryfion i'r gogledd yn dod i rym

Rhybudd melyn gwynt 12/03

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am wyntoedd cryfion i'r gogledd.

Bydd y rhybudd yn dod i rym am 05.00 ddydd Iau ac yn parhau tan 20.00 y diwrnod hwnnw.

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi rhybuddio fod oedi yn bosib ar y ffyrdd, rheilffyrdd a meysydd awyr.

Gallai rhai gwasanaethau bws a thrên gael eu heffeithio, gyda theithiau yn debygol o gymryd mwy o amser. 

Mae'n bosib y gallai rhai cartrefi a busnesau golli cyflenwadau trydan am gyfnod hefyd.

"Bydd hyrddiau o 50-55 mya ar draws ardaloedd eang, gyda rhai lleoliadau arfordirol ac ardaloedd cysgodol ar dir uchel yn gweld hyrddiau o 60 mya neu hyd at 70 mya mewn rhai mannau," meddai'r Swyddfa Dywydd.

"Bydd y gwyntoedd yn gwanhau o’r gogledd wrth i’r dydd fynd yn ei flaen."

Bydd y rhybudd yn effeithio ar y siroedd canlynol: 

  • Ynys Môn
  • Gwynedd
  • Conwy
  • Sir Ddinbych
  • Sir Y Fflint
  • Wrecsam

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.