Arian papur i gynnwys lluniau o fywyd gwyllt yn lle ffigyrau hanesyddol

Arian

Bydd Banc Lloegr yn disodli ffigyrau hanesyddol gyda delweddau o fywyd gwyllt y Deyrnas Unedig ar ei gyfres nesaf o arian papur.

Daw'r newid ar ôl mwy na 50 mlynedd o arddangos ffigyrau hanesyddol, gan gynnwys Alan Turing, Jane Austen a Syr Winston Churchill, ar yr arian. 

Dywedodd Banc Lloegr y bydd delweddau o fywyd gwyllt yn cynnig cyfle newydd i ddathlu agwedd bwysig arall o'r Deyrnas Unedig.

Mae hefyd yn anelu at gryfhau diogelwch drwy wneud yr arian papur newydd yn anoddach i'w ffugio a'u nodweddion diogelwch yn haws i'w gwahaniaethu.

Mae'r penderfyniad yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus lle cafodd thema bywyd gwyllt y gyfran uchaf o enwebiadau, gan sicrhau 60% o'r pleidleisiau.

Daeth pensaernïaeth a thirnodau yn ail agos gyda 56% o'r pleidleisiau, gyda ffigyrau hanesyddol yn y drydydd safle (38%).

Ymatebion

Derbyniwyd dros 44,000 o ymatebion, gan gynnwys e-byst, arolygon ar-lein a dyluniadau a gafodd eu cyflwyno gan ysgolion a'r cyhoedd.

Bydd Banc Lloegr yn cynnal ail ymgynghoriad dros yr haf er mwyn holi barn y cyhoedd am y bywyd gwyllt penodol yr hoffent ei gynnwys ar y gyfres nesaf o arian papur a allai gynnwys planhigion, tirweddau ac anifeiliaid.

Bydd panel o arbenigwyr bywyd gwyllt o bob cwr o'r Deyrnas Unedig yn helpu i greu rhestr o fywyd gwyllt i'r cyhoedd ddewis ohonynt, gan gynnwys yr Athro Steve Ormerod o Ysgol y Biowyddorau ym Mhrifysgol Caerdydd.

Er bod sawl blwyddyn nes y bydd yr arian papur newydd yn cael eu cyflwyno, byddant yn parhau i gynnwys portread o'r brenin neu frenhines.

Bydd y broses hefyd yn blaenoriaethu cynrychiolaeth o bob cenedl: Cymru, Lloegr, yr Alban, a Gogledd Iwerddon.

Dywedodd Victoria Cleland, prif gyllidwr Banc Lloegr: "Y prif reswm dros gyflwyno cyfres newydd o arian papur bob amser yw cryfhau’r gallu i wrthsefyll fersiynau ffug, ond mae hefyd yn rhoi cyfle i ddathlu gwahanol agweddau'r Deyrnas Unedig.

"Mae natur yn ddewis gwych o safbwynt dilysu arian papur ac mae’n golygu y gallwn arddangos bywyd gwyllt amrywiol y Deyrnas Unedig ar y gyfres nesaf o arian papur y banc. Edrychaf ymlaen at glywed am hoff fywyd gwyllt y cyhoedd yn ystod ein hymgynghoriad yn yr haf."

Llun: Gareth Fuller / PA

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.