Cymro'n cwblhau Ironman er cof am ei frawd a fu farw yn Tsieina

Guto (chwith) a Robin Evans (dde)
Guto (chwith) a Robin Evans (dde)

Mae brawd dyn o Wynedd a fu farw mewn damwain yn Tsieina ddegawd nôl wedi cwblhau her Ironman i nodi ei benblwydd yn 30 oed.

Bu farw Robin Llyr Evans yn 20 oed yn dilyn damwain tra'n gweithio mewn stadiwm tenis gyda chwmni Hawkeye yn ninas Wuhan ym mis Medi 2015.

Yn fuan ar ôl ei farwolaeth, daeth teulu Robin sy'n dod o Lanbedrog o hyd i restr o'r profiadau yr oedd wedi gobeithio eu cael yn ystod ei fywyd.

Ers hynny mae ei frawd, Guto, a'i rieni, Menai a Gareth, wedi bod yn cwblhau cymaint ohonyn nhw â phosib, gan gynnwys teithiau o amgylch y byd.

Ond er mwyn nodi penblwydd Robin yn 30, dywedodd Guto ei fod eisiau cwblhau un o'r profiadau mwy heriol triathlon Ironman Tallinn yn Estonia.

"Dwn im os oedd o’n quarter life crisis, ond o'n i'n 30 blwyddyn dwytha a gan fod Robin yn 30 blwyddyn yma a bo' hi’n 10 mlynedd ers iddo fo basio, roedd yn teimlo fel moment mawr i neud rwbath mawr iddo fo er cof amdano fo," meddai wrth Newyddion S4C.

"Dw i'n meddwl 'sa fo'n hapus bo' fi wedi neud o ar ei ran o, dw i'n gobeithio fod o’n prowd ohona fi.

"Ond oedd o’n un am dynnu coes, felly 'sa fo probably yn deutha fi neud o’n ffastach!"

'Profiad emosiynol'

Dywedodd Guto fod hyfforddi ar gyfer yr her – sy'n cynnwys nofio 3.8km, beicio 180km a rhedeg 42.195km – wedi bod yn "heriol".

"Yn ystod y training, do'n i ddim yn siŵr os o'n i'n mynd i orffen o, achos drwy’r ymarfer dwyt ti’m yn rili hitio’r milltiroedd wyt ti'n neud ar y diwrnod yn naturiol, felly roedd 'na deimlad o ryddhad mawr wrth groesi’r finish line," meddai.

"Roedd o’n brofiad rili emosiynol, o'n i llond dagrau yn meddwl am be' o'n i wedi neud a’r cysylltiad i Robin a be' oedd hynna’n golygu i fi a’r teulu i gyd.

"Dw i'm rili 'di teimlo mor agos iddo fo yn y blynyddoedd diweddar tan y naw mis diwetha, achos ti’n cael dy ysbrydoli bob diwrnod i neud wbath."

Wrth ystyried beth fyddai Robin wedi ei gyflawni petai'n fyw, dywedodd Guto y byddai ei frawd bach wedi byw bywyd i'r eithaf.

"Roedd Robin yn byw 100 milltir yr awr, felly 'sa be' bynnag 'sa fo wedi gwblhau erbyn 30 yn anhygoel," meddai. 

"Roedd o jyst yn all systems go ac yn llond egni a bywyd, so fyswn i’n lyfio gwbo be' 'sa fo 'di gallu neud efo 10 mlynedd ychwanegol.

"Jyst o’i natur roedd o wedi cyflawni a cyffwrdd gymaint o bobl mewn 20 mlynedd ag y mae pobl yn neud mewn bywyd cyfa, so 'sa fo 'di cymryd y byd by storm."

Image
Guto Evans yn cwblhau ei her Ironman
Guto yn croesi'r llinell derfyn yn Tallinn, Estonia

Fe aeth Guto, sy'n byw yn Llundain, ymlaen i ddweud ei fod wedi penderfynu defnyddio'r her Ironman i godi arian ar gyfer Ymddiriedolaeth Cofio Robin, a gafodd ei sefydlu yn 2018 er mwyn adlewyrchu angerdd Robin at fywyd a chwaraeon. 

"Roedd pwysau i neud yr Ironman ag o'n i'n teimlo fo’n emosiynol, o'n i'n rhoi lot o bwysau ar fy hun i'w gwblhau o," meddai.

"Felly, am amser hir, neshi ddim meddwl am godi pres. Ond o'n i'n meddwl 'sa fo wedi bod yn gyfle oedd wedi cael ei fethu os fyswn i heb hybu’r elusen a defnyddio’r her i godi pres at yr elusen i gadw fo i fynd am y blynyddoedd i ddod."

Drwy gyflawni'r her yn Estonia ddiwedd mis Awst, mae Guto wedi llwyddo i godi dros £8,000 ar gyfer cronfa'r ymddiriedolaeth.

Dros y saith mlynedd diwethaf, mae arian o'r gronfa wedi cefnogi dros 100 o athletwyr dan 25 oed o Wynedd a Sir Conwy.

Ac mae Guto'n annog unrhyw athletwyr ifanc o'r siroedd yma i anfon cais i Cofio Robin cyn diwedd mis Medi.

Image
Guto Evans yn Tallinn
Guto yn dathlu gyda'i rieni, Menai a Gareth Evans, ar ôl cwblhau'r Ironman

Er bod yr Ironman bellach y tu ôl iddo, mae Guto eisoes yn cynllunio ei her nesaf cerdded i fyny mynydd Kilimanjaro. 

Ond cyn hynny mae'n gobeithio mwynhau un o'r profiadau mwy ymlaciol drwy fynd i'r Swistir i ymweld â Llyn Genefa.

Yn y cyfamser bydd Menai a Gareth yn edrych ar fynd i'r Aifft i weld y pyramidiau, yn ogystal â mynd i'r Taj Mahal yn India.

'Newid sut ti'n sbïo ar fywyd'

Y bwriad, meddai Guto, ydi cyflawni pob un o'r tua 50 o brofiadau oedd ar restr Robin.

"Dw i'n meddwl fydd o’n bosib i ni ticio nhw i gyd off yn y blynyddoedd nesa rŵan," meddai. 

"'Da ni heb weld gêm y Lions eto a fydd y nesaf mewn pedair blynedd, felly allwn ni ddim gorffen o dan 2029.

"Antarctica ydi’r un arall sy’n eitha tough, felly mae'n rhaid ffeindio allan sut i neud hynna i ddechrau a dod i fyny efo ffordd i neud hynny’n reality!"

Yn ôl Guto, mae canolbwyntio ar restr bwced Robin wedi helpu'r teulu gyda'i galar ac i gadw ei atgof yn fyw.

"Mae’r rhestr bwced wedi arwain ni i neud petha gwahanol, fyswn i byth wedi neud Ironman oni bai bod o ar y rhestr bwced, felly mae o 'di gwthio ni i neud pethau newydd ag i weld rhannau newydd o’r byd," meddai.

"Mae o hefyd yn newid sut ti’n sbïo ar fywyd, sdim ots gen i am bethau bach ddim mwy ac i fi’n bersonol mae o 'di neud fi lot mwy outgoing a cysidro be' 'sa Robin yn neud mewn sefylla fela, achos roedd o’n best mêt i bawb.

"Roedd o’n amlwg yn neud wbath yn iawn." 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.