
Dedfrydu tri yn eu harddegau am dorri mewn i archfarchnad â machete
Mae tri bachgen yn eu harddegau wedi cael eu dedfrydu am dorri mewn i archfarchnad wedi'i harfogi â machete.
Roedd Cody Bond, 18 oed o Ferthyr Tudful a dau ddyn ifanc arall yn eu harddegau nad oes modd enwi oherwydd eu hoedran, wedi torri mewn i Tesco ar 28 Mai.
Yn ystod oriau mân y bore roedd y tri wedi torri trwy ddrws gwydr a helpu eu hunain i gacen, Lucozade a bwced 'gwag' o fêps.
Cafodd larwm ei ganu yn yr archfarchnad ac roedd staff wedi ffonio'r heddlu.
Pan gyrhaeddodd yr heddlu roedd y tri yn cuddio tu ôl i finiau mewn lôn gefn ger yr archfarchnad.
Roedd un ohonynt wedi symud o tu ôl y biniau gyda machete, ond roedd yr heddlu wedi llwyddo i gymryd yr arf o'i feddiant.
Eiliadau yn ddiweddarach cafodd Cody Bond a'r bachgen arall eu harestio, meddai'r heddlu.
Ychwanegodd y llu bod lluniau CCTV wedi dangos y tri ohonynt yn gafael y machete ar adegau gwahanol.

Cafodd y tri eu cyhuddo o ladrad difrifol a meddu ar gyllell mewn man cyhoeddus. Roedd pob un wedi pledio'n euog.
Cafodd Cody Bond ei ddedfrydu i 40 mis mewn canolfan i bobl ifanc tra bod un o'r bechgyn wedi derbyn Gorchymyn Goruchwylio Adsefydlu Ieuenctid a'r llall wedi ei gyfeirio at Banel Troseddwyr Ifanc.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Chris Phillips: “Mae’r tri dyn yn adnabyddus i Heddlu De Cymru ac maen nhw wedi achosi problemau mewn cymunedau ledled Merthyr Tudful.
"Mae Cody Bond bellach yn treulio cryn dipyn o amser mewn sefydliad troseddwyr ifanc, i ffwrdd o ffrindiau a theulu, a fydd yn sicr o fod yn wers galed.
“Dyma’r realiti llym y mae pobl ifanc sy’n ymwneud â throseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ei wynebu yn y pen draw.
"Rwy’n gobeithio y bydd y tri yn defnyddio’r amser hwn i fyfyrio ar eu penderfyniadau a deall bod llwybrau mwy cynhyrchiol eraill i ffwrdd o droseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.”