Gordon Ramsey wedi derbyn triniaeth i dynnu canser y croen

Llun: Instagram/Gordon Ramsey
Gordon Ramsey

Mae'r cogydd teledu Gordon Ramsey wedi derbyn triniaeth i dynnu canser y croen.

Diolchodd Ramsey, sy'n 58 oed, i weithwyr meddygol "anhygoel" oedd wedi tynnu'r celloedd carsinoma basal - math o ganser y croen nad yw'n melanoma.

Mewn post ar ei gyfrif Instagram, dywedodd Mr Ramsey: "Diolchgar ac yn gwerthfawrogi'r tîm yn The Skin Associates am eu gwaith yn tynnu'r celloedd carsinoma basal."

Ychwanegodd ei fod yn erfyn ar bobl i "beidio ag anghofio gwisgo eli haul."

Mae'r post ar Instagram yn dangos yr ardal o dan glust Mr Ramsey ar ei wyneb gyda phlastr drosto.

Image
Gordon Ramsey. Llun: Instagram/Gordon Ramsey
Gordon Ramsey ar ôl derbyn triniaeth. (Llun: Instagram/Gordon Ramsey)

Mae'r Gwasanaeth Iechyd yn dweud bod celloedd carsinoma basal allanol yn un o'r prif fathau o ganser y croen nad yw'n melanoma, ​​ac mae modd ei drin yn hawdd yn aml.

Mae canser y croen nad yw'n melanoma yn cael ei achosi'n bennaf gan olau uwchfioled - sy'n dod o'r haul ac sy'n cael ei ddefnyddio mewn gwelyau haul - ac mae'n dechrau yn haen uchaf y croen.

Y prif symptom yw tyfiant neu ddarn anarferol ar y croen, sydd yn aml ar ardaloedd sy'n agored i'r haul fel yr wyneb, y gwddf neu'r dwylo.

Ychwanegodd y GIG ei bod hi'n bosibl lleihau risg canser y croen trwy fod yn ofalus yn yr haul, gan gynnwys defnyddio ac ail-roi eli haul yn rheolaidd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.