Canslo streic bysiau yng Nghaerdydd ar ôl i weithwyr dderbyn cynnig cyflog
Mae gweithwyr bysiau yng Nghaerdydd wedi canslo streiciau a oedd wedi eu trefnu ar ôl dod i gytundeb ar gynnig cyflog.
Roedd anghydfod ynghylch cyflog ac amodau meddai undeb Unite.
Pleidleisiodd tua 450 o aelodau Unite gyda Bws Caerdydd i dderbyn codiad cyflog o 5.8%.
Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol Unite, Sharon Graham: “Mae ein haelodau yn Cardiff Bus wedi ymladd i wella a diogelu cyflog ac amodau nid yn unig drostynt eu hunain, ond er budd hirdymor y sector yng Nghymru.”