'Sbeshial iawn': Cymru yn Bencampwyr Pêl-droed dan Gerdded y Byd

'Sbeshial iawn': Cymru yn Bencampwyr Pêl-droed dan Gerdded y Byd

"I guro’r World Cup yn erbyn Lloegr, oedd o'n sbeshial iawn."

Dyma eiriau Martin Jones o Lanfairpwll ym Môn, ag yntau yn Bencampwr Byd ar ôl i dîm Cymru ennill Pencampwriaeth Pêl-droed dan Gerdded y Byd yr wythnos diwethaf. 

Fe gafodd y bencampwriaeth ei chynnal yn ninas Malmö yn Sweden, gyda thimau ar draws y byd yn cymryd rhan, gan gynnwys Awstralia, Lloegr, Ffrainc, Periw a Gwlad Pwyl. 

Mae Pêl-droed dan Gerdded yn gamp sy'n cynyddu mewn poblogrwydd, ac mae'r rheolau yn cynnwys ei bod hi'n gêm ddi-gyffwrdd, ar gyflymder arafach, ac mae rhedeg wedi ei wahardd. 

Ar ôl curo Sweden a oedd yn cynnal y bencampwriaeth yn y rownd gyn-derfynol, fe aeth Cymru yn eu blaen i wynebu Lloegr yn y rownd derfynol, a'u curo o 2-1.

"Ma’ curo World Cup yn un peth, ma’n sbeshial, especially i rywun sydd ddim yn meddwl bo’ nhw’n mynd i  chwarae football eto," meddai Martin Jones, 58, wrth Newyddion S4C.

"Ag i guro’r World Cup yn Sweden yn erbyn Lloegr, sydd yn lot mwy na be ‘dan ni, Cymru bach, ‘blaw ‘dan ni’n curo nhw efo’r galon ‘de.

"Wedyn o’dd o’n sbeshial iawn i ddeud y gwir."

Image
Martin Jones
Fe ymunodd Martin â'r tîm yn 52 oed.

Yn ôl Ffederasiwn Pêl-droed dan Gerdded Cymru, mae'r gamp wedi ei thargedu at ddynion hŷn na 50 oed a menywod hŷn na 40 sydd yn awyddus i chwarae pêl-droed ac i aros yn ffit heb gael eu hanafu. 

Fe gafodd cynghrair genedlaethol yng Nghymru ei chreu yn 2019 ar gyfer dau grŵp oedran - dros 50 a thros 60. 

Yn 2022, fe gafodd cynghreiriau newydd eu creu ar gyfer timau'r merched ac ar gyfer dynion dros 70 oed. 

Cymaint ydy'r cynnydd mewn poblogrwydd, mae gan y gamp bellach dair cynghrair dynion - un yn y gogledd a'r canolbarth, un arall yn y de ddwyrain ac un arall yn y de orllewin, gyda dros 50 o dimau i gyd. 

Mae dros 1,000 o chwaraewyr yn cymryd rhan yn gyson yn y gamp yn ôl y Ffederasiwn.

Image
Fe gafodd y bencampwriaeth ei chynnal ym Malmo
Fe gafodd y bencampwriaeth ei chynnal yn ninas Malmö yn Sweden.

"Yr idea o’r gêm ydi am bo’ ni yn yr oed yna, i ddechra, o’n i’m yn meddwl fyswn i byth yn chwarae football eto, be ydi o i fod ydi i fod yn saff i rywun sydd dros 50, sydd ‘di stopio chwara’ football 11-a-side, rhedag," meddai Martin.

"Wedyn ma’n siwtio fi i’r dim achos tydw i ddim isio rhedag dim mwy i fod yn onasd wedyn ma’r cerddad yn neud o’n hawsach."

Yn 49 oed, fe benderfynodd Rob Owen o Lanfachraeth ym Môn ymuno â'r tîm pêl-droed dan gerdded ag yntau wedi chwarae pêl-droed drwy gydol ei fywyd. 

"I fod yn berffaith onasd, doedd o ddim i fi, o'n i'n meddwl oedd o rhy slow wedyn dyma ffrind yn deud 'give it a go' a doedd gen i ddim byd i'w golli," meddai wrth Newyddion S4C

"Does yna ddim math o redag i fod yndda fo, ma'r gêm yn fwy o sgil i ddeud gwir i basio'r bêl i draed chwaraewr achos ti'm yn cael rhedeg."

Roedd hi'n dipyn o fraint i Rob hefyd i gael bod yn rhan o'r tîm.

"Teimlo yn prowd o fy hun, prowd o'r tîm a prowd o fod yn Gymro," meddai. 

"Munud ma'r anthem yn dod ymlaen, ma' 'na rwbath yn newid yndda chdi a ma'n syfrdanol, i roi y crys coch ymlaen a chynrychioli dy wlad."

Image
Rob Owen
Roedd hi'n 'fraint' i Rob Owen gael cynrychioli ei wlad.

Mae'r gamp yn hollbwysig i ddynion a menywod hŷn ar gyfer eu hiechyd corfforol a meddyliol yn ôl Martin. 

"Ma’n ofnadwy o bwysig, oed ni, mae o’n cael ni allan o’r tŷ achos ma’ pawb yn siarad am mental health a hyn a llall, ma’ football erioed i mi wedi cadw fi yn focused, a wedi cadw fi yn ffit," meddai.

"Nesh i roi go arna fo, be o’n i isio, as long as o’n i’n chwysu, os oedd o’n neud fi chwysu, oedd o’n gwneud y job, a mi nesh i chwysu wedyn dwi heb stopio ever since."

Ychwanegodd Rob: "Mae o mor bwysig i gario mlaen a 'dan ni'n glwb sy'n agored i bawb - dio'm otch pa lefel wyt ti a ma' croeso i rywun ddod, hyd yn oed os 'da chi isio dod allan o'r tŷ, trio rwbath newydd a neud ffrindia, dyna ydi'r peth pwysicaf."

Image
Cymru pel-droed dan gerdded
Y dynion yn dathlu eu buddugoliaeth

Er ei fod yn chwaraewr pêl-droed brwdfrydig yn iau, mae Martin yn teimlo yn ddiolchgar iawn o gael bod yn rhan o'r tîm Pêl-droed dan Gerdded.

"Y gora nesh i neud pan o’n i’n chwara’ ffwtbol 11-a-side pan o’n i’n ieuengach oedd nesh i chwara’ i North Wales a hyn a llall, nesh i ‘rioed fynd mor bell â chwara’ i Gymru," meddai.

Clwb Pêl-droed Amlwch ydi'r unig dîm ar Ynys Môn sy'n rhan o gynghrair y gamp yng ngogledd Cymru.

Dywedodd Rob: "Ma'r timau yn y gogledd yn gwella hefyd achos dros y pedair blynedd dwytha, ma' Cei Connah di curo y gynghrair yn y gogledd a'r Gwpan drwy Gymru ddwy flynadd a 'dan ni 'di curo'r gynghrair a'r Gwpan drwy Gymru y ddwy flynedd ddwytha.

"Ma'r Gwpan a'r League wedi aros yn gogledd Cymru dros Gymru i gyd am y pedair blynedd dwytha felly ma'r safon yn gwella lot."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.