Cipolwg ar benawdau'r bore
Bore da ar ddechrau wythnos newydd arall gan dîm Newyddion S4C.
Dyma rai o brif straeon bore dydd Llun 8 Tachwedd o Gymru a thu hwnt.
Dyn yn sownd mewn ogof ym Mannau Brycheiniog
Mae timau'n ceisio achub dyn ar ôl iddo gwympo ac anafu ei hun mewn ogof ym Mannau Brycheiniog. Aeth y dyn yn sownd yn Ogof Ffynon Ddu yn ardal Ystradgynlais ddydd Sadwrn 6 Tachwedd. Daeth adroddiadau bod y dyn yn sownd ar ôl i rywun arall roi gwybod i'r gwasanaethau brys am y digwyddiad. Yn ôl Golwg360, mae o leiaf wyth o dimau achub o sawl rhan o’r Deyrnas Unedig yn rhan o’r ymdrechion i’w achub.
Owen Paterson: ASau i gwrdd ar frys i drafod safonau Seneddol
Bydd Aelodau Seneddol yn cwrdd mewn cyfarfod brys yn ddiweddarach ddydd Llun i drafod safonau Seneddol yn dilyn ffrae am ymchwiliad disgyblu y cyn-AS Owen Paterson. Gallai Aelodau Seneddol yn San Steffan gael ei gwahardd rhag cymryd rolau ymgynghorol fel oedd gan Mr Paterson. Fe ymddiswyddodd Mr Paterson fel Aelod Seneddol ddydd Iau ar ôl i ymchwiliad cynharach ddod i'r casgliad ei fod wedi torri rheolau lobïo "droeon" yn ei rôl ymgynghorol.
COP 26: ‘Gwnewch i archfarchnadoedd ddatgelu faint o fwyd maen nhw’n gwastraffu’
Fe ddylai archfarchnadoedd "ddatgelu faint o fwyd maen nhw’n ei wastraffu" yn ôl academydd o Brifysgol Aberystwyth. Mae Dr Siobhan wedi awgrymu y dylai prisiau bwyd gynnwys y gost o ddelio gyda'r gwastraff. Mae’r alwad yn rhan o ymchwil newydd gan Dr Maderson a’i chydweithwyr fydd yn cael ei gyflwyno yn yr uwchgynhadledd hinsawdd COP26 ddydd Llun.
Gosod targed i roi diwedd ar ysmygu yng Nghymru erbyn 2030
Mae’r llywodraeth wedi gosod targed i roi diwedd ar ysmygu yng Nghymru erbyn 2030. Dyma'r diweddaraf o gyfres o fesurau i wella iechyd ac atal marwolaethau cynamserol. Ysmygu sy’n gyfrifol am achosi'r mwyafrif o afiechydion y gellir eu hatal yn ogystal â marwolaethau cynamserol yng Nghymru, yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Rhaid i’r fyddin 'wneud yn well' ar gyfer menywod yn sgil honiadau 'pryderus'
Bydd prif benaethiad y fyddin yn cwrdd ddydd Llun ar ôl i’r Ysgrifennydd Amddiffyn, Ben Wallace ddweud bod angen "gwneud mwy a gwneud yn well" ar gyfer menywod. Daw hyn yn sgil cyfres o "honiadau pryderus" ynghylch aflonyddu rhyw, bwlio a chamdrin, yn ôl Sky News. Mae cwestiynau hefyd wedi ail-godi yn dilyn marwolaeth menyw o Kenya yn 2012, a gafodd ei gweld ddiwethaf gan aelodau o’r fyddin Brydeinig.
Dilynwch yr holl benawdau diweddaraf ar Newyddion S4C drwy gydol y dydd.