Newyddion S4C

COP 26: ‘Gwnewch i archfarchnadoedd ddatgelu faint o fwyd maen nhw’n gwastraffu’

08/11/2021
archfarchnad

Fe ddylai archfarchnadoedd "ddatgelu faint o fwyd maen nhw’n ei wastraffu" yn ôl academydd o Brifysgol Aberystwyth. 

Ar ben hynny, mae Dr Siobhan Maderson yn dadlau y dylai cynghorau a lleoliadau lletygarwch hefyd gofnodi eu gwastraff, a chyrraedd targedau i leihau hyn yn flynyddol. 

Mae’r alwad yn rhan o ymchwil newydd gan Dr Maderson a’i chydweithwyr fydd yn cael ei gyflwyno yn yr uwchgynhadledd hinsawdd COP26 ddydd Llun. 

Yn fyd eang, mae gwastraff bwyd yn gyfrifol am rhwng 8-10% o allyriadau nwyon tŷ gwydr. 

Image
Gwastraff bwyd

Yn ôl elusen atal gwastraff, Wrap, mae’r Deyrnas Unedig yn cynhyrchu tua 9.5 miliwn tunnell o wastraff bwyd bob blwyddyn, ac mae cartrefi yn gyfrifol am 70% o hyn. 

Ond yn ôl Dr Maderson, mae angen tynnu sylw i’r gwastraff sy’n cael ei gynhyrchu ar gyfnodau eraill o’r gadwyn gyflenwi. 

Dywedodd: “Ar hyn o bryd, mae llawer o’r gwaith sy’n cael ei wneud ar leihau gwastraff bwyd yn canolbwyntio ar gartrefi a defnyddwyr, ond mae ein hymchwil ni yn dangos bod yna wastraff a systemau aneffeithiol ledled y system.”

Ychwanegodd bod hyn i’w weld ar y fferm, ac o ganlyniad i “gytundebau cyfyngol” rhwng cyflenwyr a manwerthwyr.

Yn 2019 fe wnaeth dros 100 o sefydliadau yn y diwydiant bwyd, gan gynnwys holl brif archfarchnadoedd y DU, addo cymryd camau i haneru gwastraff bwyd.

Yn COP26 ddydd Sadwrn, fe wnaeth pump o’r prif archfarchnadoedd – Tesco, Sainsbury’s, Waitrose, Co-op ac M&S, addo lleihau allyriadau carbon, datgoedwigo a’r gwastraff bwyd a phecynnu y maent yn eu cynhyrchu.

Bydd eu datblygiad yn cael ei fonitro gan y grŵp cadwraeth, WWF, sydd wedi disgrifio gwastraff bwyd fel “un o’r bygythiadau mwyaf i’n planed”. 

Yn ôl Dr Maderson, mae angen cefnogi ymdrechion i greu system bwyd sy’n “fwy effeithlon yn amgylcheddol”, gan awgrymu y dylai prisiau bwyd gynnwys y gost o ddelio gyda'r gwastraff.

“Mae angen i ni edrych y tu hwnt i wastraff cartref unigol, a mynd i’r afael â cholled a gwastraff ym mhob rhan o’r system fwyd,” meddai. 

“Mae cadwyni cyflenwi mawr, cymhleth yn arwain at orgynhyrchu a gor-stocio. Mae gwastraff na ellir ei osgoi, yn ogystal â bwyd sydd wedi'i ddifetha neu ei ddifrodi, fel arfer yn cael ei anfon i safleoedd tirlenwi, oherwydd y rheoliadau cyfredol ar ail-bwrpasu colledion a gwastraff bwyd.” 

Bydd newid hinsawdd yn parhau i gael ei drafod yn uwchgynhadledd COP26 tan ddydd Gwener, 12 Tachwedd.
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.