COP26: Beth sydd angen i mi wybod?

COP26: Beth sydd angen i mi wybod?

NS4C 30/10/2021

Wyt ti wedi clywed llawer o sôn am COP26 yn ddiweddar ond ddim yn siŵr beth mae'n ei olygu?

Mae Newyddion S4C wedi mynd ati i gasglu’r holl wybodaeth ti angen ei wybod am y digwyddiad.

Bydd yr uwchgynhadledd newid hinsawdd, COP26 yn cael ei chynnal yng Nglasgow, gan ddechrau ar ddydd Sul 31 Hydref.

Gyda thanau gwyllt, tywydd eithafol ac effaith lefelau carbon ar y blaned yn dod yn fwy o bryder, bydd y gynhadledd yn gyfle am drafodaeth bwysig rhwng arweinwyr y byd.

Beth yn union yw’r COP26?

Mae COP26, sydd yn sefyll am ‘Conference of the Parties’ (Cynhadledd y Pleidiau), yn uwchgynhadledd Cenhedloedd Unedig ar newid hinsawdd.

Bydd 200 o arweinwyr y byd yn cwrdd er mwyn trafod a phenderfynu sut i ddelio gyda newid hinsawdd.

Bydd Prif Weinidog y DU Boris Johnson, Arlywydd UDA Joe Biden a Phrif Weinidog Canada, Justin Trudeau yn eu plith.

Image
Newyddion S4C
Fe fydd Prif Weinidog y DU, Boris Johnson, yn ymuno â 200 o gynrychiolwyr gwleidyddol yn y COP26 eleni. [Llun: Rhif 10, Flickr]

Yn y gorffennol, mae COP wedi digwydd ym Madrid, Sbaen yn 2019, Katowice yng Ngwlad Pwyl yn 2018, a Bonn yn yr Almaen yn 2017.

Mae’r uwchgynhadledd yn ddigwyddiad blynyddol ond oherwydd amgylchiadau’r pandemig Covid-19 yn 2020 roedd yn rhaid gohirio’r gynhadledd a’i chynnal yn 2021 yn lle. 

Glasgow yn yr Alban sy'n ei chroesawu eleni, gan ddechrau ar 31 Hydref tan 12 Tachwedd. 

Pam fod yr uwchgynhadledd yma mor bwysig? 

Mae newid hinsawdd yn dod yn bwnc trafod pwysicach nag erioed bob dydd.

Mae tystiolaeth yn dangos fod y nwyon tŷ gwydr sy'n cael eu llosgi ar y blaned yn creu blanced o amgylch y ddaear, ac felly'n arwain at gynhesu byd eang. 

Yn ôl gwyddonwyr, hyn sy'n gyfrifol am newid hinsawdd, sydd yn arwain at dywydd eithafol fel llifogydd yn Ewrop, a'r sychder gwaethaf ym Mrasil ers bron i ganrif. 

Un cytundeb sydd wedi dod i’r amlwg o ganlyniad i'r uwchgynhadledd yw'r Cytundeb Paris 2015 o COP21, sydd wedi addo:

  • Lleihau faint o nwyon tŷ gwydr niweidiol a gynhyrchir a chynyddu mathau o ynni adnewyddadwy fel pŵer gwynt, solar a thonnau
  • Lleihau cynnydd yn nhymheredd y byd i 2°c, gan geisio’i gadw i 1.5°c.
  • Adolygu'r cynnydd a wnaed ar y cytundeb bob pum mlynedd
  • Gwario $100 biliwn flwyddyn mewn cyllid hinsawdd i helpu gwledydd tlotach erbyn 2020, gydag ymrwymiad i gyllid pellach yn y dyfodol.

Pam fod hwn yn wahanol i unrhyw gynhadledd arall?

Yn ôl Cyfarwyddwr grwp ymgyrchu Cyfeillion y Ddaear Cymru, Haf Elgar, mae COP26 yn "foment fawr". 

Dywedodd wrth Newyddion S4C: "Ma disgwyl i wledydd y byd i gyd i ddod yno ac i wneud ymrywmiadau newydd ac i fesur ydyn ni’n gwneud ddigon? Ydy’r hyn ‘dyn ni’n cyflawni yn mynd i gadw ni at gynhesu byd eang 1.5°c? Felly ma cwestiynau allweddol yn mynd i gael eu penderfynu yn Glasgow," dywedodd.

Mae yna ddau beth sydd angen ei gytuno arno yn COP26, yn ôl Haf, sef "ymrwymiadau i dorri allyriadau" a sicrhau fod gwledydd fwy cyfoethog yn "ariannu gwledydd llai cyfoethog i addasu i fod yn garbon isel, ac addasu i effeithiau newid hinsawdd sy'n effeithio arnyn nhw nawr". 

Sut mae'n berthnasol i ni yng Nghymru?

Yn ôl Haf Elgar, bydd y penderfyniadau sy'n cael eu gwneud ar lefel ryngwladol yn COP26 yn "dod nôl i weithredu ar lefel Cymru, ar lefel sirol ac ar lefel cymunedol".

Dywedodd: "Ma’n wir i ddweud bod yr effaith mwyaf ar wledydd tlawd y byd, ond yn y blynyddoedd diwethaf ni di gweld stormydd ofnadwy yng Nghymru, ni di gweld llifogydd mewn cymaint o gymunedau gwahanol, felly ’dyn ni yn gweld bod newid hinawdd yn effeithio ar ein bywydau ni.

"Wrth i amser fynd yn ei flaen, ma pethau’n mynd yn fwy argyfyngus, yn fwy o fater o frys, ond hefyd mae mwy o sylw, mae mwy o weithgaredd, mae mwy o bobl yn ymddiddori ac yn gweithredu."

A fydd yna gynrychiolwyr gwleidyddol o Gymru?

Bydd! Er mai Llywodraeth San Steffan fydd yn arwain y gad gyda thrafodaethau ar ran y Deyrnas Unedig, fe fydd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, yn bresennol.

Ddydd Iau, fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei pholisi Sero-Net ac mae hi eisoes wedi ymrwymo i gyrraedd y targed erbyn 2050.

 

Image
NS4C
Peter Weldon a'i feic cyn ei daith o Aberteifi i Glasgow i nodi COP26. [Llun: @mattthew_thompson]

A fydd yna gynrychiolwyr cyffredinol o Gymru?

Fe wnaeth Peter Weldon o Aberteifi seiclo o'r dref i Glasgow ddydd Iau, 28 Hydref. 

Mae Peter yn nodi'r llifogydd yng Nghastell Newydd-Emlyn yn ystod Storm Callum fel un o'r digwyddiadau wnaeth ei ysbrydoli i weithredu dros newid hinsawdd.

"Fe wnaeth un person farw o ganlyniad - roedd o'n sioc i bawb ac roedd effaith newid hinsawdd ar y gymuned yn ddinistriol mewn sawl agwedd. 

"Ddaeth i'r amlwg o hynny nad oedd cynhesu byd eang yn effeithio llefydd eraill ar draws y byd - mae'n effeithio ni yma yng Nghymru ac yn ein cymunedau."

Ychwanegodd ei fod yn seiclo i Glasgow er mwyn cyfathrebu ei neges gyda phobl ar y ffordd, gan obeithio cyrraedd Glasgow erbyn i'r gynhadledd ddechrau ddydd Sul. 

Mae'n teithio gyda llythyr gan Gyngor Tref Aberteifi i arweinwyr gwleidyddol. 

Image
shenona mitra
Shenona Mitra,  un o Lysgenhadon Hinsawdd Ieuenctid Cymru.

Mae Shenona Mitra, 18 oed, yn un o Lysgenhadon Hinsawdd Ieuenctid Cymru fydd yn teithio i Glasgow ar gyfer y gynhadledd. 

Yn wreiddiol o Fangor, mae'r fyfyrwraig mewn meddygaeth yn gobeithio gweld holl ardaloedd y Deyrnas Unedig yn cael eu trin yn gyfartal mewn cyd-destun newid hinsawdd. 

"Mae lle dwi'n dod o yng ngogledd Cymru, mewn dinas reit wledig, mae 'na duedd i ni gael ein hanghofio.

"Dydy ein trafnidiaeth gyhoeddus ni ddim yn grêt, a dydy ein hailgylchu ni mewn ysgolion ddim chwaith yn fy marn i."

Ychwanegodd fod gan Gymru "lot fawr i gynnig" o ran ailgylchu ac ynni gwyrdd. Mae hi'n dymuno gweld Cymru yn dod yn rhan fwy amlwg o'r sgwrs fyd-eang am newid hinsawdd. 

Bydd Shenona, ynghyd â'r llysgenhadon eraill yn cynnal digwyddiadau yn ystod y gynhadledd a fydd yn cael eu ffrydio yn fyw ar eu cyfryngau cymdeithasol.

Dilynwch y diweddaraf o uwchgynhadledd COP26 ar wasanaeth Newyddion S4C.