Newyddion S4C

Rhaid i’r fyddin 'wneud yn well' ar gyfer menywod yn sgil honiadau 'pryderus'

Sky News 08/11/2021
x

Bydd prif benaethiad y fyddin yn cwrdd ddydd Llun ar ôl i’r Ysgrifennydd Amddiffyn, Ben Wallace ddweud bod angen "gwneud mwy a gwneud yn well" ar gyfer menywod.

Daw hyn yn sgil cyfres o "honiadau pryderus" ynghylch aflonyddu rhyw, bwlio a chamdrin, yn ôl Sky News.

Mae cwestiynau hefyd wedi ail-godi yn dilyn marwolaeth menyw o Kenya yn 2012, a gafodd ei gweld ddiwethaf gan aelodau o’r fyddin Brydeinig.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Amddiffyn, Ben Wallace: "Mae’n rhaid i ni wneud yn siwr ein bod yn gwneud mwy na digon i sicrhau bod croeso i fenywod yn y fyddin ac y gallant fwynhau gyrfa yn y fyddin.”

Darllenwch y stori’n llawn yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.