Tirlithriad yn amharu ar wasanaethau Rheilffordd Ffestiniog

21/12/2025
Tirlithriad Rheilffordd Ffestiniog

Mae Cwmni Rheilffordd Ffestiniog wedi cadarnhau bod gwasanaethau Rheilffordd Ucheldir Cymru wedi cael eu heffeithio gan dirlithriad ger Cyffordd Tryfan tua 4.5 milltir o Gaernarfon.

Dywedodd y cwmni eu bod nhw’n credu bod y digwyddiad wedi cymryd lle fore Iau “yn ystod stormydd glaw lleol dwys”.

Ychwanegodd y cwmni eu bod nhw wedi cynnal “archwiliad llawn o'r rheilffordd cyn gweithredu'r trenau” a bod tua “cant metr ciwbig o fwd wedi'i ddyddodi ar y lein”.

Bydd gwasanaethau trên Siôn Corn o Gaernarfon y penwythnos hwn yn parhau i weithredu fel y cynlluniwyd ond dros lwybr byrrach, meddai’r cwmni.

Dywedodd y cwmni y bydd peirianwyr ac ymgynghorwyr geodechnegol ar y safle yn fuan a byddant yn llunio cynllun gweithredu priodol.

“Bydd manylion yr effaith ar wasanaethau rhwng y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd yn cael eu diweddaru ddydd Mawrth 23 Rhagfyr unwaith y bydd y peirianwyr wedi cwblhau eu harolygiadau a'u hasesiad," meddai'r cwmni.

Dywedodd y Cyfarwyddwr a'r Rheolwr Cyffredinol, Paul Lewin: “Digwyddodd y tirlithriad mewn lleoliad ger afon sydd wedi gweld symudiadau tir yn hanesyddol.

“Pan ailadeiladwyd y rheilffordd yn yr ardal hon, cafodd ei chryfhau i'w hamddiffyn yn well.

“Mae arwyddion cynnar yn dangos bod hyn wedi gweithio'n effeithiol ond nid yw hynny wedi atal llif o fwd tebyg i slyri rhag cael ei ddyddodi ar y lein yn ystod y storm law dwys.

“Mae'n bleser nodi bod ein cyfundrefn arolygu diogelwch wedi nodi'r broblem yn brydlon cyn i unrhyw drenau weithredu yn yr ardal.”

Llun: Cwmni Rheilffordd Ffestiniog

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.