Mandelson wedi gofyn am £547,000 ar ôl cael ei ddiswyddo fel llysgennad i'r UDA

Mandelson a Starmer

Fe wnaeth y Trysorlys gytuno i dalu £75,000 i’r Arglwydd Mandelson er mwyn gorffen ei gytundeb fel llysgennad y DU i’r Unol Daleithiau, yn ôl dogfennau sydd newydd eu cyhoeddi.

Roedd yr Arglwydd Mandelson wedi gofyn am daliad o £547,000 yn wreiddiol.

Cafodd Syr Keir Starmer ei rybuddio fod “risg gyffredinol i enw da” am berthynas yr Arglwydd Peter Mandelson â’r pedoffeil Jeffrey Epstein cyn i Mandelson gael ei benodi yn llysgennad.

Mae’r Llywodraeth wedi rhyddhau nifer o ddogfennau ddydd Mercher yn ymwneud â phenodiad yr Arglwydd Mandelson ar ôl i ASau orchymyn bod y wybodaeth yn cael ei chyhoeddi.

Dywedodd dogfen “diwydrwydd dyladwy” ('due dilligence') o fis Rhagfyr 2024, cyn penodiad yr Arglwydd Mandelson i'w swydd yn Washington, fod cyfres o adroddiadau yn manylu ar ei gysylltiadau ag Epstein.

Perthynas

Nododd y ddogfen, ar ôl i Epstein ei gael ei ddedfrydu'n euog am y tro cyntaf o gaffael merch dan oed yn 2008, “fod eu perthynas wedi parhau ar draws 2009-2011, gan ddechrau pan oedd yr Arglwydd Mandelson yn weinidog busnes a pharhau ar ôl diwedd cyfnod llywodraeth Lafur."

Roedd "Mandelson yn ôl y sôn wedi aros yn nhŷ Epstein tra'r oedd yn y carchar ym mis Mehefin 2009”.

'Teimlo'n ofnadwy'

Dywedodd yr Arglwydd Peter Mandelson wrth gydweithwyr yn y Swyddfa Dramor yn ei e-bost olaf iddynt ar 11 Medi 2025, ei fod yn parhau i "deimlo'n hollol ofnadwy am fy nghysylltiad ag Epstein ugain mlynedd yn ôl", er gwaethaf y ffaith ei fod wedi bod mewn cysylltiad ag Epstein mor ddiweddar â 2016.

Yn ei e-bost at staff y Swyddfa Dramor, dywedodd yr Arglwydd Mandelson wrth gydweithwyr wrth iddo adael ei swydd fel llysgennad Prydain i Washington: "Mae'r amgylchiadau sy'n ymwneud â'r cyhoeddiad heddiw yn rhai yr wyf yn eu difaru'n fawr.

"Rwy'n parhau i deimlo'n hollol ofnadwy am fy nghysylltiad ag Epstein ugain mlynedd yn ôl a thrafferthion ei ddioddefwyr. Nid oes gennyf ddewis arall ond derbyn penderfyniad y Prif Weinidog a byddaf yn gadael swydd wedi bod yn anrhydedd i wasanaethu ynddi.

“Hoffwn ddiolch i chi am eich holl ymdrechion wrth fy ngwasanaethu fel eich Llysgennad. Mewn cyfnod byr rydym wedi cyflawni cymaint. Rydym yn gadael y berthynas â’r Unol Daleithiau mewn cyflwr da iawn, gydag Ymweliad Gwladol godidog a’r Bartneriaeth Dechnoleg newydd rhwng yr Unol Daleithiau a’r DU – fy malchder a’m llawenydd personol a fydd yn helpu i ysgrifennu’r bennod nesaf o’r berthynas arbennig – oedd i fod ar gyfer yr wythnos nesaf.

“Diolch i chi gen i, Reinaldo a Jock. Byddaf yn trysori’r profiad a’r atgof o fod wedi gweithio gyda chi i gyd.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.