Cynghorwyr i ystyried cais i adeiladu tŵr uchaf Cymru

Twr Caerdydd

Fe fydd aelodau o bwyllgor cynllunio Cyngor Dinas Caerdydd yn ystyried cais i adeiladu tŵr uchaf Cymru yng nghanol y ddinas mewn cyfarfod cynllunio dydd Iau.

Fe fyddai'r tŵr yn ardal Sgwâr Canolog y ddinas yn 50 llawr ac yn cysgodi dros Stadiwm Principality ag adeiladau cyfagos petai'n derbyn caniatâd cynllunio.

Y tŵr uchaf yng Nghymru ar hyn o bryd yw Tŵr Meridian yn Abertawe, sydd yn 29 llawr gydag uchder o 107m.

Petai'r datblygiad yn gweld golau dydd, dyma fyddai ail dŵr uchaf Prydain tu allan i Lundain. 

Tŵr Deansgate ym Manceinion yw'r tŵr uchaf tu hwnt i Lundain ar hyn o bryd.

Fe fyddai'r adeilad newydd yn 180m o uchder ar ôl ei gwblhau, ac yn cynnwys 528 o unedau preswyl.

Mae'r cynllun yn cynnwys gofod ar gyfer 528 o feiciau hefyd.

Byddai adeilad deulawr arall ar ffurf pafiliwn gerllaw yn rhan o'r datblygiad, ac fe  fyddai'n cynnwys bar/bwyty a theras ar y llawr cyntaf.

Image
Twr Caerdydd

Cwmni Reap 3 limited, sydd yn is-gwmni i Bluecastle Capital, sydd yn gyfrifol am y cais.

Cafodd hysbysiad ei gyhoeddi ar wefan y cyngor am y datblygiad ac yn y wasg ym mis Medi a mis Hydref y llynedd.

Ymysg yr ymatebion cyhoeddus i'r cais cynllunio oedd rhai gan BBC Cymru a Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi, sydd ill dau gyda swyddfeydd cyfagos.

Dywed y cais fod BBC Cymru wedi codi pryderon am "y cyfnod adeiladu a chyflenwi - unrhyw effeithiau o sŵn, llwch a dirgryniad yn ystod y gwaith adeiladu a allai effeithio ar y gweithgareddau darlledu o'r adeilad sy'n digwydd drwy gydol y dydd."

Roedd Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi wedi lleisio pryder am yr effaith ar eu swyddfa yn Nhŷ William Morgan, gan gynnwys colli golau dydd, gor-gysgodi a choli golygfeydd.

Mae swyddogion cynllunio wedi awgrymu y dylai'r cais cynllunio gael ei ganiatau.

Lluniau gan Bluecastle Capital

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.