Rhybudd melyn am wynt i'r gogledd

Rhybudd melyn gwynt 12/03

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am wynt i'r gogledd ddydd Iau. 

Fe fydd y rhybudd mewn grym o 05:00 tan 20:00. 

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi rhybuddio fod oedi yn bosib ar y ffyrdd, rheilffyrdd, mewn meysydd awyr ac ar fferis. 

Fe allai rhai gwasanaethau bws a thrên gael eu heffeithio hefyd, gyda theithiau yn cymryd mwy o amser. 

Mae posibilrwydd y gallai rhai cartrefi a busnesau brofi colli trydan am gyfnod hefyd.

Fe fydd y rhybudd yn effeithio ar y siroedd canlynol: 

  • Ynys Môn
  • Gwynedd
  • Conwy
  • Sir Ddinbych
  • Sir Y Fflint
  • Wrecsam

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.