Dyn yn gwadu lladd dyn arall yn Llanelwy ar Ddydd Nadolig

Llun: Harry Turner
Harry Turner

Mae dyn wedi gwadu lladd dyn arall 68 oed ar Ddydd Nadolig yn Llanelwy.

Mewn gwrandawiad yn Llys y Goron Yr Wyddgrug ddydd Mercher fe wnaeth James Hughes wadu lladd Harold Turner yn y ddinas ar 25 Rhagfyr.

Roedd wedi ymddangos drwy linc fideo o garchar y Berwyn yn Wrecsam.

Fe gafodd James Hughes ei gyhuddo o lofruddiaeth ym mis Rhagfyr ar ôl i'w gymydog Harold Turner farw.

Clywodd y llys bod iechyd Mr Hughes wedi dirywio'n sydyn a'i fod bellach yn gorfod defnyddio cadair olwyn.

Fe fydd yn wynebu achos llys ar 15 Mehefin.

Roedd cwest i farwolaeth Harold Turner wedi clywed ei fod wedi marw o ganlyniad i anaf posib i'w ben.

Mewn teyrnged wedi ei farwoleth dywedodd ei deulu: "Roedd Harry Turner yn un o chwech, ac wedi iddo adael yr ysgol, fe ymunodd â'r Llynges cyn gweithio yn Llundain, Iwerddon ac yn ei dref enedigol, Y Rhyl. 

“Bydd colled fawr ar ôl Harry gan ei deulu."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.