Dirwyo dynes o Wynedd am dwyllo cwsmeriaid triniaethau cosmetig

Llys Caernarfon

Mae cyn berchennog busnes harddwch ym Môn a wnaeth gyfaddef i dwyllo dau gwsmer ar ôl chwistrellu sylwedd nad oedd wedi’i gymeradwyo wedi derbyn dirwy.

Roedd y cwsmeriaid yn credu eu bod yn derbyn Botox gan Carol Ann Edwards fel rhan o'u triniaethau cosmetig.

Mewn gwrandawiad yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Mercher, cafodd Ms Edwards o ardal Bethesda ddirwy o £500 a gorchymyn i dalu £500 mewn iawndal i’r ddau ddioddefwr.

Fe wnaeth Edwards, 38 oed, bledio’n euog i dwyll yn 2023, wedi’r digwyddiadau yn ei busnes, 5 Star Aesthetics, ym Mhorthaethwy.

Roedd dau gleient, a oedd yn credu eu bod yn derbyn triniaeth Botox, wedi cael eu trin gyda sylwedd rhatach, nad oedd wedi’i gymeradwyo, sef Fraxin.

Cafodd y sylwedd ei chwistrellu i wyneb un ddynes, gan arwain at gur y pen.

Dywedodd Lee Reynolds, yn erlyn ar ran Cyngor Sir Ynys Môn, yn y gwrandawiad: “Nid ydym yn deall effeithiau hir dymor a sgil effeithiau’r sylwedd.”

Roedd Edwards wedi dweud yn flaenorol ei bod wedi cychwyn ar gymwysterau nyrsio ffurfiol, ond dywedodd Mr Reynolds nad oedd hynny’n wir.

Dywedodd Ember Wong, yn amddiffyn, bod gan Edwards gyfrifoldebau gofal a’i bod yn “edifarhau’n fawr iawn.”

Dywedodd y barnwr Timothy Petts wrth Edwards ei fod “benderfyniad sâl” gan Edwards, ac y gallai “pethau fod wedi mynd o’i le’n ddifrifol”.

Nid yw Edwards bellach yn gweithio yn y maes.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.