'Cynnydd sylweddol' yn nifer yr achosion o berchnogion yn rhoi'r gorau i gadw eu cŵn

'Cynnydd sylweddol' yn nifer yr achosion o berchnogion yn rhoi'r gorau i gadw eu cŵn

Mae elusen yn Rhondda Cynon Taf yn dweud eu bod nhw wedi gweld cynnydd mawr yn nifer yr achosion o bobl yn rhoi’r gorau i’w cŵn.

Mae elusen Hope Rescue yn Llanharan, sydd wedi bodoli ers 2005, yn cymryd pob ci sydd heb ei hawlio o saith awdurdod lleol ar draws de Cymru. 

Maen nhw wedi gweld cynnydd mawr yn nifer y cŵn sydd wedi'u magu'n anghyfrifol ac yna mynd mewn i gartrefi nad oedd yn addas iddynt, medden nhw.

Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd Sara Rosser, Pennaeth Gweithrediadau Hope Rescue: "Yn anffodus, yr hyn yr ydym yn ei weld ydy cynnydd yn nifer yr achosion o berchnogion yn rhoi'r gorau i gadw eu cŵn.

"Neidiodd tua 40% yn 2022, ac fe welson ni'r llynedd y nifer uchaf o gŵn rydyn ni erioed wedi'u derbyn.”

Ychwanegodd eu bod nhw wedi gweld “cynnydd enfawr” yn nifer y cŵn a ddaeth atyn nhw eto eleni, a hynny o ganlyniad i’r argyfwng costau byw.

“Ni nawr yn gweld llawer o bobl sydd ffili ymdopi gydag ymddygiad eu cŵn,” meddai. 

"Rydyn ni yn defnyddio'r term 'perfect storm' yn eithaf aml, ond mae wir yn, rydyn ni wedi gweld mwy o gŵn, mwy o gŵn wedi'u magu'n anghyfrifol, a nawr rydyn ni’n gweld yr argyfwng costau byw sydd wir yn cael effaith ar berchnogaeth cŵn." 

Image
Sara Gyda un o'r cŵn yn y lloches

Achosion ar gynnydd

Mae llinell argyfwng yr RSPCA wedi derbyn cynnydd o 12.5% ​​mewn galwadau o Gymru, medden nhw.

Hyd at ddiwedd mis Hydref, roedden nhw wedi derbyn 1,396 o alwadau am ddigwyddiadau yn ymwneud ag anifail yn cael eu gadael neu eu dympio - cynnydd o’r 1,241 yn ystod 10 mis cyntaf 2024.

Y pum sir oedd â'r nifer fwyaf o achosion o gŵn ar grwydr ar ôl gadael eu cartrefi rhwng Ionawr ag Hydref eleni oedd Rhondda Cynon Taf (181), Abertawe (121), Caerdydd (105), Caerffili (88) a Sir Gaerfyrddin (83).

Dywedodd Sara Rosser o Hope Rescue: "Dwi'n meddwl oherwydd bod llochesi mor llawn nawr a bod yna rhestrau aros, rydym yn gweld pan mae pobl ffili cadw anifail rhagor, maen nhw rhai weithiau yn dewis eu gadael nhw yn bwrpasol yn hytrach nag aros am le mewn lloches.

"Mae'r argyfwng costau byw yn sicr yn cael effaith, rydym yn weld swm mawr o gŵn - ni actually yn meddwl tua 70% o'r cŵn sydd yn dod i ni - gyda phroblemau meddygol heb eu trin.

“Mae'n sefyllfa anodd i fod mewn ar y foment, achos rydyn ni yn weld mwy o gŵn yn dod mewn atom ni ond llai o ddiddordeb mewn mabwysiadu i'r cŵn allu adael."

Image
Katie gyda ei ci Larry

Pwysigrwydd achub cŵn

Mae Katie Owen, DJ a Chrëwr Cynnwys o'r Cymoedd, yn llysgennad i 'The Rescue Hotel Cardiff'.

Dywedodd fod "cŵn yn deulu, felly ie, mae'n bwysig i fod yn siŵr" cyn ymrwymo i un.

Sefydlwyd y 'Rescue Hotel', dan arweiniad grŵp bach o wirfoddolwyr ddiwedd 2019.

Wedi'i alw'n "elusen cŵn fwyaf Roc a Rôl y DU", mae'r elusen wedi derbyn sawl ymwelwr byd-enwog gan gynnwyd Wolf Alice, Fontaines D.C a CMAT. 

Wrth siarad â Newyddion S4C wrth fynd allan am dro gyda chi ei mam, Shirley, sydd hefyd wedi dod o'r Rescue Hotel, dywedodd Katie: "Dwi'n meddwl mae'n rili bwysig i roi ail gyfle iddyn nhw mewn bywyd."

Image
Katie yn ffilmo ei phodlediad Barklife

Dechreuodd Katie ei phodlediad newydd, 'Barklife', mewn cydweithrediad gyda'r lloches.

Yn y gyfres, mae Katie yn siarad gyda phobl amlwg o fewn y byd adloniant yng nghwmni ci o'r lloches sydd yn edrych am ei gartref am oes. 

Bydd y gyfres newydd ar gael ym mis Ionawr 2026 gyda gwesteion fel Pritchard o Dirty Sanchez a Justine o BBC Radio Wales. 

"Ni'n siarad am y byd, beth maen nhw'n gwneud, ac wedyn cŵn a'r pethau mae'r Rescue Shelter yn eu gwneud i'r cŵn, a pha mor bwysig yw e i achub ci - so ie, mae'n rili diddorol, a fi'n rili cyffrous i 'neud e,” meddai.

Mae Katie wedi bod yn gwirfoddoli i'r Rescue Hotel am tua thair blynedd, gan fabwysiadu un ci oddi yno o’r enw Larry, sydd bellach wedi marw.

Wrth wirfoddoli gyda’r Rescue Hotel yng Nghaerdydd roedd yn her i beidio mynd â bob un ci adre, meddai Katie.

"Fi'n gobeithio yn y flwyddyn newydd byddai'n cael ci newydd yn dod o'r Rescue Hotel,” meddai.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.