Tŷ Hyll ger Betws-y-Coed i fynd ar werth mewn ocsiwn
Fe fydd un o adeiladau mwyaf adnabyddus Eryri, Tŷ Hyll, yn mynd ar werth mewn ocsiwn ddydd Mercher.
Mae Tŷ Hyll ger Betws-y-Coed wedi bod yn atyniad i ymwelwyr ers degawdau.
Er hynny, fe gyhoeddodd perchnogion yr adeilad, Cymdeithas Eryri, yn gynharach eleni eu bod wedi penderfynu bod angen "ailgyfeirio ein hadnoddau i rywle arall", gan "chwilio am berchennog newydd" ar gyfer y tŷ hanesyddol.
Mae Cymdeithas Eryri yn bwriadu gwerthu'r adeilad hanesyddol rhwng Capel Curig a Betws-y-Coed mewn ocsiwn, gydag amcanbris o £199,000.
Dywedodd y Gymdeithas nad oedd y penderfyniad yn un hawdd, ond ei bod am ailgyfeirio ei hadnoddau at waith arall.
Prynodd Cymdeithas Eryri Dŷ Hyll ym 1988. Roedd yn bencadlys iddi tan 2010, ac ers hynny mae wedi bod yn gaffi ac yn ganolfan i wenyn mêl.
Er bod sawl chwedl yn gysylltiedig â’r adeilad ar ochr yr A5, nid oes sicrwydd pwy a’i hadeiladodd na phryd.
Yn ôl un chwedl, cafodd y tŷ unnos ei godi dros nos yn y 15fed ganrif.
Mae cannoedd wedi llofnodi deiseb gan gefnogwyr caffi Tŷ Hyll yn galw ar Gymdeithas Eryri i ailystyried y penderfyniad. Dywedodd staff y caffi eu bod yn ddiolchgar am y gefnogaeth.
Yn ôl Cymdeithas Eryri, bydd yr arian o’r gwerthiant yn cael ei ail-fuddsoddi yn nhirwedd, bywyd gwyllt a phobl Eryri.
Ni fydd yn cael ei ddefnyddio i dalu costau rhedeg dyddiol yr elusen, medden nhw.
