Piers Morgan yn bygwth erlyn yr Iarll Spencer dros honiadau mewn llyfr newydd
Mae Piers Morgan wedi bygwth erlyn yr Iarll Spencer yn dilyn honiadau yn ei lyfr diweddaraf.
Yn y llyfr Swan Song: Diana, My Sister, mae'r Iarll Spencer yn dweud mai Piers Morgan oedd golygydd y Daily Mirror pan gyhoeddodd y Mirror Group luniau o'r Dywysoges Diana yn y gampfa mewn leotard yn 1993.
Ond wnaeth Morgan ddim dechrau gweithio i'r Mirror tan 1995.
Mae'r Iarll Spencer wedi ymddiheuro am y camgymeriad. Mewn datganiad, dywedodd fod ei "dybiaeth yn anghywir" a'i fod yn "ymddiheuro i Mr Morgan am y camgymeriad hwn".
Yn y llyfr, a gafodd ei gyhoeddi ddydd Mawrth, mae'r Iarll Spencer yn dweud ei fod "wedi synnu'n llwyr" pan gafodd golygyddion y papurau tabloid eu gwahodd i angladd y Dywysoges Diana.
Fe wnaeth o ffonio'r golygyddion yn bersonol i ddweud wrthyn nhw nad oedd croeso iddyn nhw yn yr angladd.
“Yr unig un oedd yn swnio’n sarrug, yn hytrach na dim ond yn ddryslyd neu’n chwithig, oedd Piers Morgan o’r Mirror, a wnaeth ysgyrnygu'n flin cyn rhoi’r ffôn i lawr," meddai yn y llyfr.
Mae Piers Morgan yn gwrthod yr honiadau hyn, gan ddweud ar y cyfrwng cymdeithasol X "nad oedd o'n sarrug nac yn flin, ond yn hytrach yn barchus iawn tuag ato fo a'i deulu".
Er bod yr Iarll Spencer wedi ymddiheuro am y camgymeriad ffeithiol, mae wedi mynnu bod ei ddisgrifiad o'r sgwrs a gafodd gyda Morgan ar y pryd yn gywir, a'i fod yn "sarrug a blin" pan gafodd wybod na fyddai'n cael mynd i angladd ei chwaer.
Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, mae Piers Morgan wedi dweud y bydd yn cymryd camau cyfreithiol yn erbyn yr Iarll Spencer a chyhoeddwr y llyfr, Penguin, er mwyn cael gwared ar yr honiadau a sicrhau bod unrhyw iawndal yn cael ei dalu i Ymddiriedolaeth y Brenin.
Llun: Jonathan Brady/PA