Ceredigion: Ail agor campfa ar drothwy y flwyddyn newydd yn dilyn tân
Mae perchnogion campfa yng Ngheredigion a gafodd ei difrodi yn dilyn tân fis diwethaf wedi dweud eu bod nhw am ail-agor cyn y flwyddyn newydd.
Fe agorodd Y Gampfa yn Llandysul ei drysau ar 1 Tachwedd eleni, ond pythefnos yn ddiweddarach fe gafodd y safle ei difrodi gan dân.
Cafodd y gwasanaeth tân eu galw i'r safle yn ystod oriau man y bore ar ddydd Iau, 13 Tachwedd. Fe gafodd dyn 37 oed ei arestio ar amheuaeth o losgi bwriadol a'i ryddhau ar fechnïaeth.
Mae James Turner, rheolwr Y Gampfa, wedi dweud eu bod yn ddiolchgar i’r gymuned am eu cyfeillgarwch a’u parodrwydd i helpu yn dilyn y tân.
Ac mae bellach yn edrych ymlaen at ail agor drysau'r Gampfa ar 30 Rhagfyr.
“Mae’r gymuned wedi bod yn gymaint o help, yn cynnig helpu tacluso a rhoi eu gwasanaethau am ddim," meddai.
"Mae wedi bod yn galonogol iawn.
“Rydyn ni wedi cael gymaint o negeseuon o gefnogaeth.”
Maen nhw bellach yn gwerthu crys-t i gefnogwyr yn dweud 'We burn calories. Not buildings.'
Yn ôl James, mae wedi bod yn her ail-agor ar gyfer y flwyddyn newydd.
“Yr her fwyaf oedd gwneud yn ein siŵr bod ni yn ail-agor mor gyflym â phosib, yn enwedig gyda'r Nadolig yn agosáu," meddai.
"Dyma'r tro cyntaf i ni orfod wynebu her mor sylweddol â hon. Byddai rhai o'r pethau rydyn ni wedi gorfod datrys, fel arfer yn cymryd wythnosau, a ‘da ni wedi gorfod eu gwneud nhw mewn dyddiau.
“Mae hi wedi bod yn bosib oherwydd y gefnogaeth rydyn ni wedi ei gael. Mae pawb wedi gweithio fore a nos a'n blaenoriaethu ni.
"Mae pawb wedi dod at ei gilydd.”
Fe ymunodd dros 200 o bobl gyda'r Gampfa wedi iddi agor ym mis Tachwedd.
“Roedd gyda ni'r teimlad o gyfrifoldeb i gyflawni'r hyn oeddem ni wedi ei addo," meddai James Turner.
"Roedd yn rhaid i ni ail-adeiladu, a gwneud job cystal â'r agoriad cychwynnol oherwydd yr holl bobl hyn oedd eisiau dod yn ôl.
“Mae’n rhyddhad mawr ein bod ni yn gallu agor unwaith eto, i staff Y Gampfa ac i’r gymuned leol.”