Dim ymchwiliad gan y Comisiwn Etholiadol i wariant etholaethol Nigel Farage

Nigel Farage

Ni fydd y Comisiwn Etholiadol yn ymchwilio i wariant etholiad cyffredinol Nigel Farage, meddai'r corff gwarchod.

Roedd y Blaid Lafur wedi galw am ymchwiliad i wariant arweinydd Reform UK yn etholaeth Clacton, gan honni y gallai gorwariant fod wedi torri cyfraith etholiadol.

Daeth hyn yn dilyn cyhuddiadau gan gyn-gynghorydd Reform ac aelod o dîm ymgyrchu Mr Farage, Richard Everett.

Fe awgrymodd fod Reform wedi methu â datgan gwariant ar daflenni, baneri, biliau cyfleustodau ac adnewyddu bar yn ei swyddfa ymgyrchu yn Clacton, a fyddai'n torri'r terfyn o £20,660 yn etholaeth Essex.

Ond mae'r C0misiwn Etholiadol bellach wedi dweud nad yw wedi nodi unrhyw wariant y dylai Reform UK fod wedi'i ddatgan yn genedlaethol.

Daw hyn ar ôl i Heddlu Essex ddweud na allent ymchwilio i'r honiadau, gan fod terfyn amser o flwyddyn ar wneud hynny wedi mynd heibio.

Dywedodd llythyr gan y Comisiwn Etholiadol at Reform UK: “Ni wnaethom nodi tystiolaeth gredadwy o droseddau posibl o gyfraith etholiadol.

“Felly, ein penderfyniad yw cau ein hystyriaeth o'r mater yn dilyn ymholiadau cychwynnol a pheidio â chymryd unrhyw gamau pellach.”

Dywedodd llefarydd ar ran y Comisiwn Etholiadol: “Rydym wedi ymateb i ohebiaeth (cadeirydd Llafur) Anna Turley AS a gododd gwestiynau ynghylch gwariant Reform UK yn etholiad cyffredinol 2024.

“Ar ôl ystyried yn ofalus y wybodaeth a gyflwynwyd yn y llythyr, ni wnaethom nodi unrhyw wariant yn ymwneud ag ymgyrch etholiadol Mr Farage yn Clacton y dylid bod wedi'i ddatgan yng ngwariant cenedlaethol Reform UK.”

Dywedodd Peter Harris, asiant etholiadol Mr Farage yn Clacton: “Roedd hon yn gŵyn â chymhelliant gwleidyddol sydd wedi'i harchwilio'n drylwyr a'i gwrthod yn bendant.

“Mae'r ffeithiau'n glir, mae'r broses wedi'i dilyn yn briodol, ac nid oes sail i unrhyw honiad, casgliad neu ailadrodd pellach o'r honiadau hyn.”

Roedd Reform wedi gwadu’n gryf eu bod wedi torri’r gyfraith ar wariant etholiadau, a chyhuddo Mr Everett o fod yn “gyn-gynghorydd anfodlon” a gafodd ei ddiarddel o’r blaid “sawl mis yn ôl”.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.