Chwe Gwlad: Dim newid i dîm Cymru i wynebu'r Eidal

Steve Tandy (Huw Evans)

Mae Steve Tandy wedi cyhoeddi tîm Cymru i wynebu'r Eidal yng ngêm olaf y Chwe Gwlad dros y penwythnos.

Nid oes unrhyw newid i’r tîm a wnaeth gychwyn yn y gêm ddiwethaf, sef y golled 27-17 yn erbyn Iwerddon yn Nulyn nos Wener ddiwethaf.

Yr unig newid ar y fainc yw Blair Murray, sydd yn cymryd lle’r canolwr Louie Hennessey.

Fe fydd Tandy a’i dîm yn gobeithio dod â rhediad o 15 colled yn olynol yn y Chwe Gwlad i ben yn erbyn yr Eidalwyr, rhediad sy’n ymestyn yn ôl i fis Mawrth 2023.

Dywedodd Steve Tandy: "Mae gallu enwi tîm heb unrhyw newid i ddechrau’r gêm hon, yn dangos pa mor glós a chyson y mae’r bechgyn hyn wedi tyfu gyda’i gilydd. Mae hefyd yn adlewyrchiad o safon ein perfformiad mas yn Iwerddon.

"Bydd angen i ni godi’n perfformiad i lefel arall y penwythnos hwn.

"Yn ystod y Bencampwriaeth hyd yma, fe berfformion ni’n dda am gyfnodau yn erbyn Ffrainc ac fe adeiladon ni’n gryf ar hynny wrth wynebu’r Alban. 

“Ro’n ni’n meddwl ein bod wedi chwarae’n dda iawn y diwrnod hwnnw. Yn erbyn Iwerddon wedyn fe wnaethon ni godi’n lefelau eto i wynebu eu her gorfforol.

"Nawr mae’n rhaid i ni ddod â’r cyfan at ei gilydd a chreu ein perfformiad gorau o’r Bencampwriaeth y penwythnos yma."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.