Ffordd osgoi Porthmadog ar gau tan ddydd Llun wedi gwrthdrawiad angheuol

21/12/2025
port.jpg

Fe fydd ffordd osgoi Porthmadog ar gau tan o leiaf ddydd Llun wedi gwrthdrawiad angheuol nos Sadwrn. 

Mewn datganiad brynhawn dydd Sul dywedodd Heddlu’r Gogledd bydd ffordd osgoi Porthmadog, yr A487 “yn parhau ar gau heno a than yfory (22 Rhagfyr) wrth i ymchwiliadau barhau i wrthdrawiad angheuol”.

Mae’r llu yn dal i gynghori teithwyr i osgoi'r ardal a defnyddio'r dargyfeiriadau sydd wedi'u harwyddo.

Mae’r llu wedi diolch i’r cyhoedd am eu hamynedd wrth iddyn nhw ddelio â’r digwyddiad a byddan nhw’n rhoi diweddariad am gau ffyrdd ddydd Llun.

Ychwanegodd y llu: “Mae Heddlu Gogledd Cymru yn cynnig eu cydymdeimlad dwysaf i'r teuluoedd. 

"Gofynnwn i bobl barchu eu preifatrwydd yn ystod y cyfnod anodd hwn. 

"Ni fyddwn yn gwneud unrhyw ddatganiadau pellach ynghylch amgylchiadau'r gwrthdrawiad ar hyn o bryd."

Dywedodd Heddlu'r Gogledd fore dydd Sul fod disgwyl i'r ffordd fod ar gau i'r ddau gyfeiriad am beth amser. 

Cafodd gyrrwyr eu hannog i osgoi'r ardal ac i ddilyn yr arwyddion am ddargyfeiriad. 

Dywedodd y Prif Arolygydd Trystan Bevan o’r Uned Plismona’r Ffyrdd: 'Rwy’n cydymdeimlo’n fawr â’r teuluoedd ar yr adeg anodd yma.

"Yn anffodus, rydym yn trin hwn fel gwrthdrawiad ffordd angheuol.

"Rwy'n apelio ar unrhyw un oedd yn teithio ar yr A487 rhwng 21:00 a 21:40 ar 20/12/25 ac a oedd yn dyst i'r gwrthdrawiad i gysylltu â'r heddlu."

Mae'r llu yn annog unrhyw un â gwybodaeth i gysylltu gan ddefnyddio'r cyfeirnod C196768. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.