'Fy ysbrydoliaeth, fy arwr': Teyrnged Brett Johns i'w dad yn dilyn ei farwolaeth
Mae'r ymladdwr o Bontarddulais Brett Johns wedi rhoi teyrnged i'w lysdad, Andrew Burt, a fu farw fore Sul.
Mewn teyrnged ar y cyfryngau cymdeithasol, fe ddywedodd Johns fod ei dad 'Burty', wedi marw wedi ei amgylchynu gan ei deulu.
Fe ddechreuodd Johns ymarfer jiwdo gyda Andrew Burt yn bedair oed.
Mewn teyrnged fore Sul, dywedodd Johns: "Er fod hwn yn amser hynod o emosiynol yn ein bywydau, dwi'n eistedd yma gyda chymaint o ddiolchgarwch a gwerthfawrogiad tuag at y dyn roeddwn i'n ei alw'n 'Dad'," meddai.
"Heb Burty, ni fyddai MMA wedi digwydd. Roedd o mor ganolog yn fy mywyd gwallgof i.
"Fy ysbrydoliaeth, fy arwr."
'Un o arwyr y byd jiwdo'
Fe ddywedodd MMA Cymru mewn teyrnged: "Fe gawson ni wybod bore 'ma am farwolaeth drasig un o arwyr y byd jiwdo a thad Brett Johns, Andrew Burt.
"Pan y gwnaeth Brett symud o Jiwdo i MMA, roedd Andrew yn rhan hollbresennol o'r tîm.
"Yn gymeriad bywiog, Andrew oedd yr uchaf yn y gornel wrth i Brett ddatblygu drwy'r rhestrau amatur MMA ac yna y rhai proffesiynol."
Fe gyhoeddodd Johns yn ddiweddar ei fod yn ymddeol o'r gamp MMA.
Mae cyfweliad a gafodd ei ryddhau ar y pryd yn rhoi golwg onest i gefnogwyr am ei ymddeoliad a’i yrfa sy'n ymestyn dros ddegawd, wrth i Johns, a'i wraig Carys, baratoi i groesawu ail blentyn.
Dywedodd Johns: “Mae ymladd wedi bod yn rhan o identity fi am dros 13 mlynedd.
“Pob dydd dwi’n ymarfer unwaith, ddwywaith y dydd. Dwi ‘di gweld y straen ar teulu fi, gweld fy ngwraig yn gweithio gyda’r plant bach, a’r rhan fwyaf o’r amser dwi mas o’r tŷ yn gweithio ac yn ymarfer.
“Dwi jyst ishe pawb i wbod, o’dd e ddim yn benderfyniad hawdd i orffen, ond o’dd e’r penderfyniad iawn.”
Llun: Brett Johns / Instagram
