Eisteddfod yr Urdd 2028 i gael ei chynnal yng Nghaernarfon

Mistar Urdd / Caernarfon

Bydd Eisteddfod yr Urdd 2028 yn cael ei chynnal yn ardal Caernarfon.

Cyhoeddodd Urdd Gobaith Cymru a Chyngor Gwynedd ddydd Llun y byddai'r ŵyl yn dychwelyd i'r ardal am y tro cyntaf ers 1956, gyda safle ar Ffordd Bethel yn cael ei ystyried fel lleoliad.

Dywedodd Llio Maddocks, Cyfarwyddwr Celfyddydau’r Urdd: “Rydym mor gyffrous fod Eisteddfod yr Urdd yn dychwelyd i ardal Caernarfon yn 2028, ble mae’r Gymraeg i’w chlywed yn naturiol, ac yn fwrlwm o weithgareddau cymunedol a chelfyddydol.

“Mae’r gefnogaeth ydym ni eisoes wedi ei gael gan Gyngor Gwynedd a’r rhanbarth cyfan i gynnal yr Eisteddfod yn Eryri yn 2028 yn wych. 

"Mae safle yn cael ei ystyried ar Ffordd Bethel, Caernarfon, ac edrychwn ymlaen at gyhoeddi’r union leoliad wedi trafodaethau pellach rhwng yr Urdd, Cyngor Gwynedd a pherchnogion tir lleol.”

“Un o gryfderau Eisteddfod yr Urdd yw ei bod yn teithio ac yn rhan annatod o fywydau cymunedau ledled Cymru. 

"Rwy’n edrych ymlaen yn fawr i gydweithio gyda Chyngor Gwynedd, partneriaid lleol a’r gymuned dros y ddwy flynedd nesaf i sicrhau gŵyl gofiadwy a phrofiadau gwerthfawr i blant a phobl ifanc yr ardal.”

'Balch'

Meddai’r Cynghorydd Menna Trenholme, Dirprwy Arweinydd Cyngor Gwynedd ac Aelod Cabinet dros Blant a Chefnogi Teuluoedd: “Rydym yn hynod falch o allu croesawu Eisteddfod yr Urdd i Wynedd yn 2028, dyma’r tro cyntaf i’r wŷl ddod i ardal Arfon ers 2012 ac rwy’n gwybod bydd y gymuned leol yn sicrhau y bydd yn Eisteddfod i’w chofio i blant a phobl ifanc o bob rhan o Gymru.

“Mae’r Cyngor wedi cynorthwyo’r Urdd i adnabod safleoedd posib, ac rydym yn falch eu bod bellach yn cyhoeddi mai ardal Caernarfon fydd cartref yr ŵyl mewn cwta dwy flynedd. 

"Bydd llawer o waith i’w wneud cyn hynny a dwi’n edrych ymlaen at fwrlwm y paratoadau. Mae’r cynnwrf sydd i’w deimlo yma ym Môn yr wythnos hon yn ysbrydoliaeth i ni gyd.”

Meddai Mared Llywelyn, Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod yr Urdd Eryri 2028: “Rydym wrth ein boddau y bydd safle Eisteddfod Eryri 2028 yn ardal Caernarfon. Mae'n dref sy'n llawn egni a bwrlwm a hynny yng nghalon ardal Eryri.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.