Teyrnged teulu i feiciwr modur a fu farw mewn gwrthdrawiad
Mae teulu dyn a fu farw mewn gwrthdrawiad rhwng beic modur a char ddydd Gwener wedi rhoi teyrnged iddo.
Bu farw Robert Curl, 37 oed, o Ben-y-bont ar Ogwr, mewn gwrthdrawiad ar ffordd y B4265 am 15:00 ddydd Gwener.
Roedd y dyn 37 oed yn gyrru beic modur Suzuki a wnaeth wrthdaro â Toyota Yaris coch. Bu farw Robert Curl yn y fan a'r lle.
Wrth roi teyrnged iddo, dywedodd ei deulu: "Fel teulu rydym wedi ein dinistrio gan golled Robert.
"Roedd yn fab, brawd, yn dad ac yn bartner cariadus, yn ewythr, ŵyr a nai yn ogystal â ffrind i nifer.
"Fe wnaeth e gyffwrdd â bywydau cymaint o bobl a bydd yn cael ei garu a'i golli bob amser."
Mae'r teulu yn cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol, meddai Heddlu De Cymru.
Ychwanegodd y llu fod gyrrwr y Toyota Yaris yn helpu'r swyddogion gyda'u hymholiadau.
Mae'r heddlu yn apelio am unrhyw un sydd â gwybodaeth neu sydd â lluniau camerau cylch cyfyng a allai helpu eu hymholiadau i gysylltu â nhw ar eu gwefan neu drwy ffonio 101, a dyfynnu'r cyfeirnod 2600159686.
