Ymgais i achub dyn sy'n sownd mewn ogof ers deuddydd
Mae timau yn ceisio achub dyn ar ôl iddo gwympo ac anafu ei hun mewn ogof ym Mannau Brycheiniog.
Yn ôl Tîm Achub Ogofâu De a Chanolbarth Cymru, aeth y dyn yn sownd yn Ogof Ffynnon Ddu yn ardal Ystradgynlais ddydd Sadwrn 6 Tachwedd.
Dywedodd y tîm bod y dyn wedi ei anafu ac o ganlyniad yn methu gadael yr ogof.
Mae'r ymgyrch i'w achub wedi dwysáu dros nos gyda 242 o bobl wedi bod yn rhan o'r ymgyrch.
Mae mwy na wyth o dîmau achub ar draws y DU yn rhan o'r gwaith yn ogystal ag ambiwlans.
Yn ôl y tîm achub, mae'r dyn wedi cael ei symud yn nes tuag at allanfa ar y mynydd ger Penwyllt fore dydd Llun.
Does dim gwybodaeth bellach gan y tîm achub am fanylion y dyn na'i gyflwr.
Yn ôl Tîm Achub Ogofâu De a Chanolbarth Cymru, mae'n "niwlog iawn" ger yr ogof wrth i'r tîmau wneud eu gwaith.
Dywedodd llefarydd ei bod yn "anodd gweld yr allanfeydd" oherwydd y tywydd.
‘Ogof boblogaidd iawn’
Yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru, mae system ogofau Ffynnon Ddu ymhlith “y mwyaf yn Ewrop ac yn boblogaidd iawn gydag ogofwyr profiadol.”
Cafodd y system o ogofâu eu darganfod yn 1946 ac mae’n ymestyn am bellter o tua 60km.
Dim ond pobl sydd â'r offer priodol a thrwydded gan Glwb Ogofâu De Cymru all gael mynediad i’r ogofâu, yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru.
Ym mis Medi, adroddodd Tîm Achub Ogofau De a Chanolbarth Cymru bod dau berson wedi eu hachub o Ogof Ffynnon Ddu.
Cafodd y ddau fan anafiadau ar ôl i ddau garreg mawr syrthio yn yr ogof.
Cafodd tîm ehangach eu galw i achub y ddau.
Dywedodd y Tîm Achub eu bod yn "lwcus" o fod wedi "osgoi anafiadau difrifol".
Prif Lun: Llun llyfrgell gan Dîm Achub Ogofau De a Chanolbarth Cymru