Newyddion S4C

Chwarae yn Wimbledon yn 'hwb enfawr' i Mimi Xu wrth geisio cyrraedd y lefel uchaf

Mimi Xu

Mae cyn-hyfforddwr y chwaraewraig tenis Mimi Xu yn dweud y gallai chwarae yn Wimbledon fod o gymorth mawr iddi wrth geisio cyrraedd y 100 uchaf ar restr detholion y byd.

Chwaraeodd Xu o Abertawe yn y rownd gyntaf yn erbyn Emma Raducanu ddydd Llun ar Gwrt 1 yn Wimbledon.

Fe wnaeth y ferch 17 oed dderbyn cerdyn gwyllt (wild card) gan Glwb All England, gwobr am y potensial y mae hi wedi'i ddangos dros y blynyddoedd.

Cafodd ei threchu 6-3 6-3.  

Er iddi golli, mae ei chyn-hyfforddwr pan oedd hi'n blentyn, Francesca Lewis yn credu bod profi un o gystadlaethau mwyaf adnabyddus y gamp yn gallu bod o fudd enfawr i'w gyrfa.

"Bydd Wimbledon yn hwb enfawr i'w hyder wrth geisio cyrraedd y lefel uchaf," meddai wrth Newyddion S4C.

"Fe fydd y flwyddyn nesaf yn un llawn gwaith caled iddi geisio sicrhau eu lle yn y 100 uchaf a'i bod hi ddim yn ddibynnol ar gardiau gwyllt.

"Ar hyn o bryd mae hi'n gyfyngedig o ran nifer y cystadlaethau mae hi'n gallu chwarae ynddynt, oherwydd ei bod hi'n 17 oed a ddim yn troi'n 18 tan ddiwedd Tachwedd.

"Felly tan fod hi'n 18 oed, mae nifer y cystadlaethau mae hi'n gallu chwarae ynddynt yn gyfyngedig ac mae hynny'n ei dal hi 'nôl yn nhermau codi ar y rhestr ddetholion.

"Dyw hi ddim yn bell i ffwrdd o'i lefel gorau, a bydd cystadlu mwy yn ei helpu i ddatblygu a bod yn fwy cyson."

Image
Francesca Lewis gyda Mimi Xu
Francesca Lewis a Mimi Xu. (Llun: Francesca Lewis)

'Swreal'

Ar hyn o bryd mae Mimi Xu yn rhif 318 ar restr detholion y byd.

Hi oedd y chwaraewraig gyntaf o Gymru i sicrhau lle yng nghystadleuaeth senglau menywod Wimbledon ers 20 mlynedd.

Y Gymraes ddiwethaf i chwarae ym mhrif bencampwriaeth Wimbledon cyn Xu oedd Joanna Konta a hynny ar ddechrau'r 2000au.

Roedd Francesca Lewis yn hyfforddi Mimi am chwe blynedd a hanner.

Rhwng chwech a 12 oed fe welodd hi'r chwaraewr tenis ifanc yn datblygu cyn iddi ddechrau ymarfer gyda'r Academi Genedlaethol yn Loughborough.

Bellach mae hi'n ymarfer yng Nghanolfan Tenis LTA yn Roehampton ochr yn ochr ag Emma Raducanu a Jack Draper.

Mae'n gwneud hyn i gyd tra ei bod hi'n astudio ar gyfer ei harholiadau Safon Uwch.

Image
Roedd Mimi Xu wedi cyrraedd rhif 8 ar restr detholion ieuenctid y byd ar un adeg
Roedd Mimi Xu wedi cyrraedd rhif 8 ar restr detholion ieuenctid y byd ar un adeg

Dywedodd Ms Lewis bod gweld Mimi yn chwarae yn erbyn Raducanu ddoe yn gwneud iddi deimlo mor falch.

"Roedd yn swreal, dwi wedi nabod Mimi ers oedd hi'n ifanc ac roedd gweld hi ar lwyfan mor fawr, roeddech chi'n gwybod bod e mynd i ddigwydd un diwrnod.

"Ond pan chi'n gwylio yn y foment, mae'n swreal i'w weld yn digwydd.

"Dwi mor falch ohoni achos roedd hi'n gêm anodd. Chwaraeodd Emma (Raducanu) ei thenis gorau ac roedd adegau lle gallai Mimi chwalu, ond wnaeth hi ddim.

"Ond dwi hefyd yn edrych ar y darlun cyfan, yr ymdrechion ganddi hi a'i rhieni i gyrraedd y pwynt yma, tra bod hi dal ym myd addysg llawn amser."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.