Newyddion S4C

Pryder y gallai dawns draddodiadol yng Nghymru 'ddiflannu' heb weithredu ar frys

Uwch-grŵp ceilidh Cymreig TwmpDaith yn perfformio yn Nhŷ Gwerin yr Eisteddfod
TwmpDaith yn perfformio yn Nhŷ Gwerin yr Eisteddfod

Mae ‘na bryder am ddyfodol y byd dawns yng Nghymru, gyda rhai yn poeni y gallai dawnsio traddodiadol “(d)diflannu heb ymyrraeth amserol.” 

Daw’r pryderon i’r amlwg mewn adroddiad sydd yn cael ei gyhoeddi ddydd Mercher sydd yn “dangos yn glir” bod angen buddsoddi yn y sector ar frys. 

Yn ôl y ddogfen a gafodd ei gomisiynu gan Gyngor Celfyddydau Cymru, mae’r sector bellach “ar adeg dyngedfennol.” 

Mae Cymdeithas Ddawns Werin ledled Cymru yn dweud eu bod yn pryderu y gallai dawnsio gwerin a chlocsio ddiflannu oni bai bod yna weithredu.

Yn yr adroddiad maent yn mynegi pryder ynghylch y ffaith bod “dawns werin wedi cael ei hesgeuluso yn y gorffennol". 

Mae yna broblemau tebyg ar draws y sector ehangach, gan gynnwys dawns broffesiynol, gymunedol, yn yr ysgol ac fel rhan o’n treftadaeth. 

Yr ymgynghorydd a'r ymchwilydd, Karen Pimbley, oedd yn arwain yr adolygiad.

Dywedodd: “Mae'r adolygiad yn dangos yn glir yr angen brys am ail-ddychmygu ac ailgodi’r sector a buddsoddi ynddo. 

“Roedd llawer o bobl wedi cyfrannu at yr adroddiad gan roi darlun llawn o'r sefyllfa.”

'Gwytnwch'

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn dweud eu bod wedi ymateb drwy roi cynllun gweithredu ar waith gyda chyllideb ddatblygu o £350,000 ar gyfer dawns wedi'i glustnodi ar gyfer 2025/26. 

Mae hynny ar ben y cyllid sydd yn cael ei rhoi i gwmnïau dawns drwy gyllid craidd ac i brosiectau drwy grantiau sydd yn cael eu hariannu gan y Loteri, meddai'r corff. 

Cafodd 11 o argymhellion eu cyflwyno fel rhan o’r adolygiad. 

Ymysg yr argymhellion mae ‘na alw am benodi arbenigwr dawns i Gyngor Cyngor y Celfyddydau yn ogystal â sefydlu panel annibynnol i oruchwylio cynllunio a gweithredu cenedlaethol.

Mae’r adolygiad hefyd yn nodi y dylai bwrsariaethau gael ei ariannu fel y gall unigolion fynd i Ganolfannau Hyfforddiant Uwch.

Argymhelliad arall yw bod rhaid “ymgorffori’r Gymraeg a'n diwylliant yn ein hymarfer dawns” fel y bydd yn ffynnu. 

Yn ôl Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru, Dafydd Rhys, mae dawns yng Nghymru wedi dangos “gwytnwch rhyfeddol yn wyneb heriau strwythurol dwfn.” 

“Rydym yn ddiolchgar i Karen Pimbley a phawb a gymerodd ran wrth greu'r adroddiad hwn ac awgrymu ffyrdd inni gefnogi'r artistiaid ymroddedig sy'n cynnal y rhan hanfodol hon o'n hunaniaeth ddiwylliannol,” meddai. 

“Rwy'n falch iawn bod gennym bellach ddau arbenigwr dawns Emily Bamkole a Julia Sangani yn aelodau'r Cyngor, a chynllun gweithredu cynhwysfawr yn ei le i roi'r gefnogaeth y haeddianol i’r ddawns yng Nghymru.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.