Canlyniad cymysg i Sean 'Diddy' Combs ar ddiwedd ei achos troseddol
Mae'r rapiwr a’r dyn busnes Sean 'Diddy' Combs wedi ei gael yn ddieuog o dri chyhuddiad yn ei erbyn, ond mae wedi'i gael yn euog o ddau gyhuddiad arall.
Fe fydd Combs a'i dîm cyfreithiol yn gweld y canlyniad ddydd Mercher fel llwyddiant o fath, gan fod y rheithgor wedi ei gael yn ddieuog o'r cyhuddiadau mwyaf difrifol oedd yn ei wynebu.
Daeth y rheithgor i'r casgliad ei fod yn ddieuog o gyfres o droseddau anghyfreithlon sydd yn ymddangos yn gyfreithiol er mwyn gallu elwa’n fasnachol, sef ‘racketeering’.
Fe'i cafwyd yn ddi-euog hefyd o fasnachu ar gyfer rhyw (sex trafficking) yn achos Cassie Ventura a dynes sy'n cael ei hadnabod fel 'Jane'.
Ond daeth rheithgor i'r casgliad ei fod yn euog o ddau gyhuddiad o deithio er mwyn cymryd rhan mewn puteindra yn achos y ddwy ddynes.
Mae Combs wedi bod yn y ddalfa ers iddo gael ei arestio ym mis Medi y llynedd.
Mae'r cyhuddiad y mae Combs yn euog ohono, sef teithio er mwyn cymryd rhan mewn puteindra, yn ddedfryd sydd gyda chosb o uchafswm o 10 mlynedd yn y carchar.
Fe glywodd yr achos gan 34 o dystion dros gyfnod o bron i ddau fis, gan gynnwys cyn-gariadon a chyn-gyflogwyr Combs.
Fe ddaeth Sean Combs yn rapiwr adnabyddus yn ystod yr 1990au ac mae wedi ennill tair gwobr Grammy.
Fe sefydlodd ei gwmni recordio Bad Boy Records yn 1993 ac mae’n cael ei adnabod fel un o gewri’r byd hip-hop.
Nid dyma yw’r tro cyntaf i P Diddy wynebu cyhuddiadau yn ymwneud â thrais rhywiol yn ei erbyn.
Roedd ei gyn-bartner, y gantores Cassie Ventura, wedi honni ei bod wedi dioddef dros ddegawd o gamdriniaeth – gan gynnwys cael ei masnachu ar gyfer rhyw a chael ei threisio.
Daeth yr achos cyfreithiol hwnnw i ben wedi i’r gantores gytuno am setliad cyfreithiol am swm o arian, na chafodd ei ddatgelu.