Newyddion S4C

'Hollol allweddol': Menter gymunedol i achub neuadd hanesyddol yn Y Felinheli

Neuadd yr Eglwys Felinheli

Mae menter gymunedol yn Y Felinheli yng Ngwynedd wedi dod i gytundeb i achub neuadd hanesyddol.

Ers misoedd mae Menter Felinheli wedi bod mewn trafodaethau gyda’r Eglwys yng Nghymru ynglyn â neuadd yr eglwys yn y pentref.

Fe gafodd yr adeilad ei agor yn 1935, ond mae wedi bod ar gau ers rhai blynyddoedd bellach ac angen gwaith adnewyddu sylweddol.

Erbyn hyn mae’r Eglwys yng Nghymru wedi cytuno mewn egwyddor i drosgwlyddo’r adeilad i’r fenter ac mae trafodaethau wedi dechrau ar fanylion lês.

Yn ôl un o'r trefnwyr mae'n "hollol allweddol" bod adeiladau gwag yng Nghymru yn cael eu hadfer.

"Mae’n bwysig i’r gymuned a chymunedau trwy Gymru i ddechrau perchnogi eu hasedau nhw," meddai Gwyn Roberts wrth Newyddion S4C.

"Fel arall maen nhw’n cael eu gwerthu i bobl sy’n malio dim am y cymunedau – ag yr unig reswm fysa rhywun yn prynu nhw ydi i neud dipyn bach o arian sydyn, gan boeni dim am be' maen nhw’n ei adael ar ôl."

'Ysbryd cymunedol'

Fe gafodd Menter Felinheli ei sefydlu yn haf 2023 a codwyd £150,000 yn y gymuned mewn ymgais i brynu marina’r pentref.

Er na lwyddodd yr ymgyrch honno, mae cyfranddalwyr wedi gadael tua £80,000 yng nghoffrau'r fenter ar gyfer ymgyrchoedd eraill.

Dywedodd Mr Roberts y bydd yr arian rŵan yn cael ei ddefnyddio i ddenu grantiau ar gyfer adnewyddu'r adeilad.

"Mae gyno ni neuadd goffa sy’n bodoli’n barod ac mae’n addas iawn ar gyfer nifer fawr o ddigwyddiadau," meddai. 

"Ond mae 'na angen am neuadd lai, mwy cartrefol ar gyfer digwyddiadau eraill fatha ioga a stwff ysgol feithrin.

"Roedd 'na dipyn o ddefnydd yn cael ei neud allan o neuadd yr eglwys rhai blynyddoedd yn ôl – dod â’r bwrlwm yn ôl ydi'r bwriad.

"Mae 'na waith i neud i ddod â’r adeilad i fyny at safon achos mae 'di bod yn dirwyio ers blynyddoedd bellach, felly mae 'na waith gwario i neud."

'Her fawr'

Er bod y fenter yn wynebu "her fawr", mae Mr Roberts yn dweud bod y newyddion yn "adlewyrchiad o’r ysbryd gymunedol" yn y pentref.

"Dw i'n frodor o Felinheli a does na'm lot ohona ni o gwmpas; rhai blynyddoedd nôl roedd pawb yn diystyru'r pentra a jyst yn pasio trwadd," meddai.

"Ond erbyn hyn mae o’n bentre bywiog, byrlymus iawn efo cymuned cryf iawn ac mae hwn yn adlewyrchiad arall o’r ysbryd gymunedol sydd yma."

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.