Newyddion S4C

Caernarfon: Rhybudd am beryg i fywyd fandaliaid wedi difrod £250,000 i safle trin dŵr

Safle Dwr Cymru

Mae’r heddlu wedi rhybuddio fandaliaid bod eu bywydau mewn peryg wedi difrod £250,000 i safle trin dŵr yng Nghaernarfon.

Mae’r safle ar ffordd Santes Helen yn cynnwys tanciau dwfn a dywedodd Dŵr Cymru y byddai unrhyw un sy’n syrthio i mewn yn cael eu tynnu i’r gwaelod.

Mae ffenestri a drysau wedi cael eu chwalu, a pheiriannau arbenigol wedi cael eu difrodi a'u taflu i mewn i danciau dŵr.

Mae difrod hefyd wedi'i wneud i ffensys o amgylch perimedr y safle.

Dywedodd yr heddlu bod y fandaliaid wedi eu gweld ar y safle gan swyddogion diogelwch a hefyd camerâu cylch cyfyng.

Mae'r safle'n darparu ar gyfer cwsmeriaid Dŵr Cymru yn ardal Caernarfon, gan lanhau a thrin dŵr gwastraff carthion ar gyfer dros 12,000 o gartrefi a busnesau.

Dywedodd y Prif Arolygydd Stephen Pawson o Heddlu Gogledd Cymru eu bod nhw’n “pryderu bod yr unigolion hyn mewn perygl o anaf difrifol neu waeth bob tro y maent yn tresmasu ar y safle”.

“Yn benodol, rydym yn annog rhieni a gofalwyr i wirio ble mae eu plant gyda’r nos a gwneud yn glir iddyn nhw eu bod nhw mewn perygl.”

Image
Difrod

Dywedodd Victoria Collier, Rheolwr Dalgylch Dŵr Cymru mai biliau cwsmeriaid fyddai yn talu am y difrod.

“Y tu hwnt i’r goblygiadau ariannol a’r niwed amgylcheddol, rydyn ni’n pryderu am iechyd a diogelwch y rheini sy’n gwneud hyn,” meddai.

“Mae rheswm pam fod gan y safle ffensys diogelwch ac arwyddion rhybuddio.

“Mae’r safle’n cynnwys tanciau dwfn iawn, a pe bai unrhyw beth neu unrhyw un yn cwympo i mewn, byddent yn cael eu tynnu i’r gwaelod ac yn methu dod i’r wyneb.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.