Cadarnhau dyddiad i gynnal pleidlais o ddiffyg hyder yng nghadeirydd Undeb Rygbi Cymru
Cadarnhau dyddiad i gynnal pleidlais o ddiffyg hyder yng nghadeirydd Undeb Rygbi Cymru
Mae Undeb Rygbi Cymru wedi cadarnhau y bydd eu Cyfarfod Cyffredinol Eithriadol yn cael ei gynnal ar 13 Ebrill, gyda phleidlais o ddiffyg hyder yn y cadeirydd annibynnol Richard Collier-Keywood.
Mae'r undeb yn argymell nad yw'r aelodau yn pleidleisio o blaid y cynnig hwnnw.
Mae'r Bwrdd yn dweud y byddai cyflwyno swydd wag ar unwaith ar Fwrdd Undeb Rygbi Cymru heb gynllun ar gyfer rhywun yn lle'r cadeirydd ar amser mor allweddol i'r undeb yn "niweidiol ac yn creu ansicrwydd."
Dywed yr Undeb fod y cadeirydd annibynnol presennol wedi "mynd y tu hwnt i'r hyn oedd i'w ddisgwyl ganddo yn nhermau beth mae wedi ei gyflawni i rygbi yng Nghymru."
Ychwanegodd yr Undeb eu bod yn bwriadu amlinellu cyflawniadau Mr Collier-Keywood yn fanwl yn y Cyfarfod Cyffredinol Eithriadol.
Undeb Ardal Morgannwg Ganol sydd wedi arwain y galwadau am y bleidlais o ddiffyg hyder.
Maen nhw wedi eu lleoli o fewn rhanbarth y Gweilch.
Mae gwrthwynebiad chwyrn i'r posibilrwydd y gallai Undeb Rygbi Cymru gael gwared â'r rhanbarth.
Mae’n fwriad gan Undeb Rygbi Cymru i ailstrwythuro’r drefn bresennol gan gwtogi niferoedd y rhanbarthau o bedwar o dri.
Ac mae pryderon bod yr Undeb yn ffafrio uno’r Gweilch a Chaerdydd.
Ddydd Sadwrn, wedi buddugoliaeth Cymru yn erbyn yr Eidal, mynnodd Cyfarwyddwr URC Dave Reddin unwaith eto bod y bwrdd llywodraethol yn bwrw mlaen â'u cynlluniau i gwtogi nifer y rhanbarthau, gan nodi nad oes cynllun wrth gefn.
Daeth hi i'r amlwg ganol Chwefror bod cyfarfod arbennig wedi ei alw ac roedd gan Undeb Rygbi Cymru saith wythnos i'w gynnal.
Roedd yr undeb eisoes wedi dweud y byddai cynnal cyfarfod o'r fath yn achosi niwed sylweddol i rygbi Cymru.
Cyhoeddodd Undeb Rygbi Cymru ddatganiad ganol Chwefror yn cadarnhau bod cais gan glybiau cymunedol wedi ei dderbyn i alw Cyfarfod Cyffredinol Eithriadol.
Roedd y datganiad yn nodi iddyn nhw gyhoeddi cynlluniau ar gyfer Dyfodol y Gêm Elît yng Nghymru ddiwedd mis Hydref 2025, "yn dilyn proses ymgynghori helaeth."
"Rydym bellach yn canolbwyntio ar weithredu’r cynllun hwnnw ac rydym wedi bod yn gweithio’n ddiflino gyda’n rhanddeiliaid allweddol yn ystod y misoedd diwethaf i gytuno ar gonsensws o safbwynt y gweithrediad hwnnw.
"Mae’r gwaith manwl hwn wedi’i wneud gyda’r clybiau proffesiynol, y Bencampwriaeth Rygbi Unedig (URC) a chynrychiolwyr y chwaraewyr, ac rydym yn parhau’n ymrwymedig i sicrhau consensws ar gyfer camau nesaf y broses.
"Gofynnwn i bob rhanddeiliad barhau i weithio gyda ni. Rydym yn cydnabod bod newid yn heriol, ond mae’n hanfodol ar gyfer lles hirdymor y gêm yma yng Nghymru," meddai'r datganiad.
Llun: Asiantaeth Huw Evans
