Newyddion S4C

Rachel Reeves yn Ganghellor ‘am amser hir iawn’ meddai’r Prif Weinidog

Rachel Reeves yn ei dagrau

Bydd Rachel Reeves yn Ganghellor “am amser hir iawn i ddod” meddai’r Prif Weinidog Keir Starmer.

Daw ei sylwadau wedi i Rachel Reeves fod yn ei dagrau yn ystod sesiwn cwestiynau’r Prif Weinidog yn Nhŷ’r Cyffredin ddydd Mercher.

Roedd yn wythnos anodd i’r Canghellor wedi i’r llywodraeth orfod gwneud tro pedol ar gynlluniau i arbed hyd at £5bn ar fudd-daliadau.

Ond dywedodd Keir Starmer nad oedd gan gwedd emosiynol “ddim byd” i’w wneud â gwleidyddiaeth.

“Dydw i ddim am ymyrryd mewn mater preifat drwy siarad â chi am hynny,” meddai wrth siarad â phodlediad Political Thinking with Nick Robinson.

“Mae’n fater personol.

“Fe fydd hi’n Ganghellor erbyn i hyn gael ei ddarlledu, fe fydd hi’n Ganghellor am amser hir iawn i ddod.

“Mae’r prosiect i newid y Blaid Lafur, i ennill yr etholiad, newid y wlad, mae hwnnw’n brosiect rydyn ni, y Canghellor a minnau, wedi bod yn gweithio arno gyda’n gilydd.”

“Mae hi wedi gwneud swydd wych. Rydw i a hi’n gweithio gyda'n gilydd, rydyn ni'n meddwl gyda'n gilydd.”

'Pwysau'

Roedd adroddiadau fod Ms Reeves wedi cael stŵr gan Lefarydd Tŷ’r Cyffredin, Syr Lindsay Hoyle, cyn dechrau Cwestiynau’r Prif Weinidog.

Yn ôl adroddiadau roedd Syr Lindsay wedi ceryddu Ms Reeves am ei dull o ymdrin â Chwestiynau’r Trysorlys yn gynharach yn yr wythnos.

Yn ôl y sôn, fe ymatebodd y Canghellor gan ddweud ei bod wedi bod “dan gymaint o bwysau”.

Nos Fercher, fe bleidleisiodd ASau o 335 i 260 o blaid cynlluniau dadleuol y wladwriaeth les yn San Steffan, ar ôl i Lywodraeth y Deyrnas Unedig orfod cyflwyno newidiadau pellach munud olaf. 

Llwyddodd y Llywodraeth i ennill gyda mwyafrif o 75 o bleidleisiau, sy'n golygu y bydd y bil diwygio lles yn symud i'r cam nesaf yn y Senedd.  

Ddydd Mawrth, rai oriau cyn y bleidlais, cynigiodd y Prif Weinidog ddiwygiadau pellach i'r aelodau Llafur hynny a oedd yn dal yn anfodlon â'r cynlluniau wedi'r tro pedol yr wythnos diwethaf.   

Bydd pobl sy'n derbyn y taliad annibyniaeth personol (PIP) ar hyn o bryd yn parhau i wneud hynny ar ôl i Lywodraeth San Steffan gyhoeddi newidiadau ar y diwygiadau lles dadleuol nos Iau diwethaf.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.