Dau fachgen yn ymddangos yn y llys wedi’u cyhuddo o lofruddio ‘tad cariadus’
Mae dau fachgen sydd wedi eu cyhuddo o lofruddio dyn yn y Barri nos Lun wedi ymddangos yn y llys ddydd Iau.
Mae'r bechgyn 16 a 17 oed, o Lanilltud Fawr, nad oes modd eu henwi am resymau cyfreithiol, ill dau wedi cael eu cyhuddo o lofruddiaeth.
Cafodd y bechgyn eu cadw yn y ddalfa ieuenctid yn dilyn eu hymddangosiad yn Llys Ynadon Caerdydd.
Maent wedi’u cyhuddo o lofruddio Kamran Aman oedd yn 38 oed ac yn dad i un plentyn.
Fe ymddangosodd y bechgyn ar wahân yn y llys.
Dywedodd y prif ynad Patricia Blackwell: “Mae’r cyhuddiadau rydych chi’n eu hwynebu mor ddifrifol fel bod rhaid anfon eich achos i Lys y Goron nawr.
“Byddwch yn cael eich cadw yn y ddalfa ieuenctid tan eich ymddangosiad yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Llun.”
Mewn teyrnged iddo, dywedodd teulu Mr Aman: “Gyda thristwch dwfn a chalonnau trwm yr ydym yn galaru am golled drasig Kamran. Gŵr ymroddedig, tad cariadus, mab, brawd, ewythr a ffrind ffyddlon annwyl - Kamran oedd calon ei deulu...
"Yn adnabyddus am ei ysbryd hael a'i galon garedig, daeth Kamran â chynhesrwydd a chryfder i bawb y cyfarfu â nhw. Mae ei absenoldeb yn gadael gwagle anfesuradwy ym mywydau pawb a'i hadnabu.
"Wrth i ni alaru am y golled annirnadwy hon, rydym hefyd yn anrhydeddu ac yn dathlu'r bywyd a fu'n ei fyw a'r effaith a wnaeth. Bydded ei atgof yn fendith.”
Mae Heddlu De Cymru wedi diolch i’r gymuned “am y gefnogaeth a’r wybodaeth sydd eisoes wedi’i darparu”.