Newyddion S4C

Sesiwn fentora i fusnesau Eryri 'hyrwyddo diogelwch' ymwelwyr

S4C

Bydd busnesau yn Eryri yn cael y cyfle i fynd i sesiwn fentora er mwyn "hyrwyddo negeseuon diogelwch" i ymwelwyr yr ardal.

Bwriad prosiect Pencampwyr Mentra’n Gall Eryri ydy lleihau'r pwysau cynyddol sydd ar dimau achub mynydd Eryri, sef y prysuraf yn y DU.

Yn llynedd fe wnaeth y tîm mwyaf prysur, sef Tîm Achub Mynydd Llanberis, gael eu galw i dros 350 o ddigwyddiadau.

Er mwyn mynd i'r afael â'r sefyllfa, bydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a Thîm Achub Mynydd Llanberis yn cydweithio â pherchnogion busnesau lletygarwch i gynnig cyngor i ymwelwyr ar sut i gerdded i fyny'r Wyddfa yn ddiogel.

Yn ôl Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, mae'r straen ar dimau achub yn "ddifrifol".

"Mae’r straen corfforol a meddyliol ar y mudiad cwbl wirfoddol hwn yn ddifrifol," meddai llefarydd ar ran y corff.

"Ac maen nhw yn cyrraedd y pwynt lle mae eu gallu i ymdopi â phwysau cynyddol galwadau o dan fygythiad."

'Lleisiau dibynadwy'

Yn ôl yr Awdurdod, mae data yn dangos bod "nifer cynyddol o ddigwyddiadau y gellir eu hosgoi".

"Bob blwyddyn mae mwy a mwy o bobl yn mynd i Ogledd Cymru i ddringo mynyddoedd, ond nid yw llawer ohonynt wedi paratoi ar gyfer y profiad," meddai'r corff.

Y gobaith ydy ceisio "dylanwadu ar ddewisiadau pobl" wrth iddyn nhw ymweld â gwestai, bwytai a chaffis yn Eryri.

"Mae busnesau'n cael eu hystyried yn lleisiau dibynadwy ac yn arbenigwyr rhanbarthol," meddai'r awdurdod. 

"Efallai mai'r sgyrsiau y mae pobl yn eu cael gyda chi yw'r olaf a gawsant cyn cychwyn am y bryniau neu’r dŵr.

"Rydym eisiau gweithio gyda busnesau lletygarwch i'ch cefnogi chi a'ch staff i hyrwyddo negeseuon diogelwch i gwsmeriaid."

Ychwanegodd: "Gall eich sgwrs dros frecwast neu baned wneud gwahaniaeth enfawr."

Bydd y sesiwn gyntaf yn cael ei chynnal yn Theatr y Ddraig yn y Bermo yng Ngwynedd ar ddydd Mawrth 8 Gorffennaf rhwng 10.30 a 13.30.

 
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.