Cyhuddo dau fachgen o lofruddio 'tad cariadus' yn y Barri
Mae dau fachgen wedi eu cyhuddo o lofruddio dyn yn y Barri nos Lun.
Mae'r bechgyn 16 a 17 oed, o Lanilltud Fawr, nad oes modd eu henwi am resymau cyfreithiol, ill dau wedi cael eu cyhuddo o lofruddiaeth.
Mae disgwyl iddynt ymddangos yn Llys Ynadon Caerdydd ddydd Iau.
Nid yw ditectifs yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â marwolaeth Mr Aman.
Mewn teyrnged iddo, dywedodd ei deulu: “Gyda thristwch dwfn a chalonnau trwm yr ydym yn galaru am golled drasig Kamran. Gŵr ymroddedig, tad cariadus, mab, brawd, ewythr a ffrind ffyddlon annwyl - Kamran oedd calon ei deulu...
"Yn adnabyddus am ei ysbryd hael a'i galon garedig, daeth Kamran â chynhesrwydd a chryfder i bawb y cyfarfu â nhw. Mae ei absenoldeb yn gadael gwagle anfesuradwy ym mywydau pawb a'i hadnabu.
"Wrth i ni alaru am y golled annirnadwy hon, rydym hefyd yn anrhydeddu ac yn dathlu'r bywyd a fu'n ei fyw a'r effaith a wnaeth. Bydded ei atgof yn fendith.”
Dywedodd yr Uwch-arolygydd Ditectif Mark O’Shea, o Dîm Ymchwilio i Droseddau Mawr Heddlu De Cymru: “Mae ein meddyliau gyda theulu a ffrindiau Kamran, fel y maent wedi bod ers digwyddiadau trasig nos Lun.
“Hoffem ddiolch yn fawr iawn i’r gymuned am y gefnogaeth a’r wybodaeth sydd eisoes wedi’i darparu.”