Newyddion S4C

Cau porthladd Caergybi: ‘Gwersi i’w dysgu’ meddai Ysgrifennydd Trafnidiaeth

Ken Skates

Mae Ysgrifennydd Trafnidiaeth Llywodraeth Cymru wedi dweud bod “gwersi i’w dysgu” o gau porthladd Caergybi ac y bydd pethau’n cael eu “gwneud yn wahanol” os yw'r un amgylchiadau yn codi eto yn y dyfodol.

Fe gafodd yr holl wasanaethau fferi ym mhorthladd Caergybi eu canslo cyn y Nadolig ar ôl difrod i ddwy derfynfa.

Er bod Terfynfa 5 wedi ailagor ar 16 Ionawr, does dim disgwyl i Derfynfa 3 ailagor tan 15 Gorffennaf.

Roedd y cau o ganlyniad i ddau “ddigwyddiad angori” yn cynnwys llongau Irish Ferries ar 6 a 7 Rhagfyr. 

Roedd rhybudd tywydd coch mewn grym o oriau mân 7 Rhagfyr wrth i Storm Darragh daro Cymru, gan ddynodi perygl i fywyd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu tasglu i ymchwilio i’r hyn ddigwyddodd sy’n cynnwys cynrychiolwyr o lywodraethau'r DU, yr Alban a Gogledd Iwerddon, awdurdodau lleol, cwmnïau porthladdoedd, cwmnïau fferi, a chynrychiolwyr y diwydiant logisteg.

Wrth ddiweddaru'r Senedd ddydd Mercher dywedodd yr  Ysgrifennydd Trafnidiaeth Ken Skates eu bod nhw fel tasglu a llywodraeth yn “sylweddoli fod yna wersi i’w dysgu”.

“Mae yna bethau allwn ni eu gwneud i wella’r sefyllfa yn y dyfodol,” meddai.

“Gyda budd edrych yn ôl a dysgu ar y cyd rydyn ni’n adnabod pethau y gallwn ni eu gwneud yn wahanol os ydyn ni’n cael ein hunain mewn sefyllfa debyg lle mae angen cau porthladd eto.”

Dywedodd bod aelodau'r tasglu yn bwriadu cyhoeddi rhestr o weithgareddau oedd angen i’r aelodau eu cwblhau ar ôl i’r tasglu ddod i ben.

Ychwanegodd bod cwmni Stena Line sy’n cynnal porthladd Caergybi yn bwriadu cynnal gwaith cynnal a chadw yn y dyfodol “er mwyn amddiffyn gwytnwch y strwythurau wrth gynnal gweithrediadau a chapasiti llawn yn y porthladd”.

'Gwrando'

Roedd yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth yn ymateb i adroddiad a gyhoeddwyd ym mis Ebrill gan Bwyllgor Economi, Masnach a Materion Gwledig y Senedd oedd wedi beirniadu ymateb Llywodraeth Cymru.

Roedd y pwyllgor o'r farn y gallai'r digwyddiad fod wedi'i reoli'n well pe bai’r Ysgrifennydd Cabinet penodol yn arwain ymateb Llywodraeth Cymru.

Beirniadodd y pwyllgor y ffaith nad oedd eu tystion yn siŵr pwy yn Llywodraeth Cymru oedd yn gyfrifol am ymdrin â chau’r porthladd.

Roedd dryswch ai'r Ysgrifennydd Trafnidiaeth neu Ysgrifennydd yr Economi Rebecca Evans AS oedd yn gyfrifol, meddai'r adroddiad.

Ni dderbyniodd Llywodraeth Cymru yr un o'i chwe argymhelliad, gan wrthod tri a derbyn y gweddill yn rhannol.

Dywedodd Andrew RT Davies, cadeirydd y pwyllgor, yn y Senedd ddydd Mercher nad oedd y ffaith bod un o’r digwyddiadau ar 6 Rhagfyr, cyn uchafbwynt Storm Darragh, wedi cael digon o sylw.

“Roedd y pecynnau newyddion wedi creu'r dybiaeth am storm Darragh,” meddai.

“Nid oedd y digwyddiad mewn gwirionedd yn ystod cyfnod storm Darragh yn taro Caergybi, roedd cyn storm Darragh.

“Ac felly roedd materion eraill, yn amlwg, i'w hystyried ynghylch morwriaeth, ac ati.”

Ychwanegodd: “Rydyn ni’n gobeithio y bydd y gweinidog yn gwrando ac rydyn ni’n edrych ymlaen at weld argymhellion y tasglu ym mis Hydref.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.