‘Hynod siomedig’: Ymateb i gymeradwyo fferm solar ddadleuol ar Ynys Môn
Mae aelodau o senedd Cymru a San Steffan Ynys Môn wedi dweud eu bod nhw’n “hynod siomedig” gyda phenderfyniad i gymeradwyo fferm solar ddadleuol ar yr ynys.
Mae’r cynllun Alaw Môn i osod y fferm solar fawr ger Llyn Alaw ar yr ynys wedi cael ei gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru.
Fe fyddai’r fferm solar yn gorchuddio 2% o dir yr ynys, ac yn cael ei hadeiladu ar dir ffermio yn bennaf.
Mae cwmni Enso Energy wedi dweud y bydd y parc yn pweru 33,935 o dai ac yn creu 160MW o ynni solar adnewyddadwy.
Dywedodd Ysgrifennydd Economi, Ynni a Chynllunio Llywodraeth Cymru, Rebecca Evans, bod "buddion y cynllun yn drech nag unrhyw effeithiau niweidiol".
Mae'r llythyr yn nodi'r penderfyniad yn nodi eu bod o'r farn "y bydd y cynllun yn cael effaith gadarnhaol ar y Gymraeg, gan gynnig arwyddion dwyieithog a buddion cymunedol.
"Disgwylir i'r camau adeiladu a gweithredu greu cyfleoedd cyflogaeth lleol, gan helpu i gadw gweithwyr yn y gymuned. Ystyrir bod pryderon ynglŷn â’r effaith ar yr iaith yn sgil gweithwyr sy’n symud i'r ardal yn gymedrol o ganlyniad i natur dros dro adeiladu."
Ond dywedodd yr aelod o Senedd Cymru, Rhun ap Iorwerth, a’r aelod o Senedd San Steffan, Llinos Media, eu bod nhw’n “hynod siomedig”.
“Mae trigolion lleol wedi mynegi eu gwrthwynebiad i’r datblygiad ers tro, oherwydd yr effaith niweidiol ar ein tirweddau a’n sectorau amaethyddol, a thwristiaeth ar yr ynys, tra’n cynnig bron i ddim o ran swyddi na budd economaidd,” meddai Rhun ap Iorwerth, sydd yn arweinydd Plaid Cymru.
“Mae’n rhwystredig bod Llywodraeth Lafur Cymru wedi anwybyddu’r pryderon yma ac wedi bwrw ymlaen, er gwaethaf y ffaith bod y cynnig yn mynd yn erbyn polisi Llywodraeth Cymru o amddiffyn Tir Gorau a Mwyaf Amlbwrpas.
“Nid gwrthwynebu ynni solar - sydd â’i rôl i’w chwarae fel rhan o’r cymysgedd ynni - ydi hyn. Ond ceisio amddiffyn ein cymunedau rhag cael eu hecsbloetio gan ddatblygwyr masnachol ac atal colli erwau helaeth o dir fferm gwerthfawr pan bod dulliau amgen a mwy arloesol yn bodoli.
“Byddwn yn parhau i sefyll dros ein cymunedau ar y mater hwn a gweithio i sicrhau bod unrhyw ddatblygiadau sy’n effeithio arnynt yn darparu buddion ystyrlon i drigolion lleol.”
Dywedodd arweinydd cyngor sir yr ynys, Gary Pritchard, nad oedd yn iawn gosod y fferm solar ar dir gwyrdd amaethyddol yr ynys.
“Rydyn ni’n mynd i golli bron i 700 acr o dir amaethyddol ffrwythlon reit wrth ganol yr ynys,” meddai wrth Radio Cymru.
“Mae’n teimlo fel nad oes unrhyw ystyriaeth wedi ei roi i sut effaith mae’r fferm solar yma yn mynd i’w gael ar gefn gwlad”
Mae Newyddion S4C wedi gofyn i Lywodraeth Cymru ac Enso Energy am ymateb i sylwadau ASau'r ynys.