
‘Bod yn gaeth i cetamin wedi cymryd drosodd fy mywyd’
Mae ymladdwr cawell o Lanfairfechan yn Sir Conwy a oedd yn gaeth i’r cyffur cetamin yn dweud ei fod wedi cymryd drosodd ei fywyd, gan achosi problemau iechyd a oedd yn ei rwystro rhag gadael ei gartref.
Mae Charlie Rayner-Jones, 26, yn un o nifer cynyddol o bobl ifanc sydd wedi profi problemau iechyd yn dilyn defnydd cronig o’r cyffur cetamin.
"Roedd gen i grampiau ofnadwy yn fy stumog a phoen yn fy arennau i’r pwynt lle’r o’n i’n llewygu a ddim yn gallu gadael y tŷ," meddai wrth Newyddion S4C.
"Yr unig beth oedd yn lleddfu’r boen oedd cymryd mwy o cetamin, sy’n gylch dieflig iawn achos mae’n gwaethygu’r broblem ond yn ei ddatrys dros dro.
"Nath o achosi lot fawr o broblemau i fi, fy iechyd, fy nheulu – nath o wir gymryd drosodd fy mywyd."
Mae Charlie bellach yn gwella ar ôl saith mlynedd o fod yn gaeth i cetamin ac yn galw ar Lywodraeth y DU i uwchraddio'r cyffur i Ddosbarth A.
Roedd bron i 300,000 o bobl rhwng 16 a 59 wedi ei ddefnyddio yn y flwyddyn hyd at fis Mawrth 2023 – y nifer fwyaf erioed ar gofnod, yn ôl y Swyddfa Gartref.
Dywedodd y swyddfa bod y cynnydd yn nifer y defnyddwyr yn "peri pryder mawr" a'u bod wedi gofyn am gyngor ynghylch ei ailddosbarthu fel cyffur Dosbarth A.
Cwffio yn erbyn cetamin
Fe wnaeth Charlie, sy'n hyffordi gyda chlwb ymladd PMA, ddechrau cymryd cetamin yn 17 oed.
"Ro’n i’n gwbl yn erbyn cyffuriau i ddechrau, roedd fy ffrindiau i gyd wedi dechrau eu cymryd ond ro’n i’n cadw’n bell i ffwrdd ohonyn nhw," meddai.
"Cwpl o flynyddoedd yn ddiweddarach, ro’n i’n yfed bach mwy ac yn mynd i bartïon a dyna pryd nesh i ddechrau cymryd cyffuriau ac o’n i’n hooked yn syth."
Dywedodd Charlie ei fod wedi dechrau cymryd cetamin oherwydd ei fod yn credu ei fod yn peri llai o risg na chyffuriau eraill.
Ond mae'n cydnabod bellach bod hynny'n "gamsyniad peryglus".

Gan fod pobl yn gallu goddef cetamin yn sydyn, mae'n golygu bod angen cymryd mwy a mwy ohono i deimlo'r effaith.
Ar un adeg roedd Charlie yn cymryd y cyffur yn ddyddiol ac yn gwario tua £70 y dydd (£2,000 y mis) ar gyflenwad ohono.
Sylweddolodd fod yn rhaid iddo roi'r gorau i gymryd y cyffur ar ôl iddo golli ei frwydr gyntaf mewn cawell, tra dan ei ddylanwad.
Ym mis Ionawr 2024, fe aeth i ganolfan adferiad am wyth wythnos cyn symud i Dŷ Penrhyn ym Mangor lle fu'n byw am naw mis.
Erbyn hyn, mae Charlie yn byw mewn cartref ei hun yn y ddinas, ac nid yw wedi cyffwrdd cetamin nag alcohol ers dros 18 mis.
"Dwi wedi newid fy mywyd, dw i’n ôl yn gweithio yn y maes cyfrifo rŵan ar ôl pum mlynedd," meddai.
"Nes i basio fy mhrawf gyrru cwpl o fisoedd yn ôl hefyd – mae bywyd yn dda iawn erbyn hyn."
Beth yw cetamin?
Mae cetamin yn cael ei ddefnyddio yn y GIG fel anesthetig a chyffur sy’n lleddfu poen.
Ond mae hefyd yn cael ei ystyried fel cyffur hamdden oherwydd ei effeithiau rhithbeiriol (hallucinogenic).
Ar hyn o bryd, mae'n gyffur Dosbarth B o dan Ddeddf Camddefnyddio Cyffuriau 1971 ar ôl bod yn Ddosbarth C tan 2014.
Y gosb uchaf am gyflenwi neu gynhyrchu’r cyffur yw hyd at 14 mlynedd yn y carchar, dirwy heb derfyn, neu'r ddau.
Y gosb uchaf am feddiant yw hyd at bum mlynedd yn y carchar, dirwy heb derfyn, neu'r ddau.

Yn ôl Charlie, maen angen i'r Swyddfa Gartref uwchraddio cetamin i gyffur Dosbarth A.
Mae'n credu y byddai'r statws newydd yn golygu y byddai llai o gyflenwyr cyffuriau yn fodlon ei werthu.
"Mae'n hollbwysig oherwydd hyd yn oed os nad yw'n lladd pobl, mae'n mynd i fod yn niweidiol iawn – yn enwedig i'r genhedlaeth iau," meddai.
"Ac mae'n rhemp ymhlith y genhedlaeth iau hefyd, sy'n broblem fwy ei hun achos dw i wedi clywed am blant mor ifanc â 11 oed yn ei gymryd."
Roedd symiau sylweddol o cetamin ymhlith y cyffuriau anghyfreithlon a gafodd eu casglu yn ystod cyrchoedd gan Lu’r Ffiniau yn 2024.
Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Gartref: "Mae cetamin yn sylwedd hynod beryglus ac mae’r cynnydd diweddar yn ei ddefnydd yn peri pryder mawr.
"Mae’r Gweinidog dros Blismona ac Atal Troseddau wedi gofyn am gyngor gan y Cyngor Ymgynghorol ar Gamddefnyddio Cyffuriau ynghylch ei ailddosbarthu fel cyffur Dosbarth A a bydd yn ystyried y cyngor hwnnw’n ofalus ac yn gyflym ar ôl ei dderbyn."
Bydd Charlie yn ymddangos ar raglen Sgrap ar Hansh S4C ddydd Mercher.