
Trywanu Ysgol Dyffryn Aman: 'Ystyried' cyfeirio merch at raglen gwrthderfysgaeth
Roedd yr awdurdodau wedi ystyried cyfeirio merch wnaeth geisio llofruddio dwy athrawes a disgybl yn Ysgol Dyffryn Aman at raglen gwrthderfysgaeth cyn y digwyddiad, meddai adroddiad newydd.
Cafodd y ferch 13 oed, nad oes modd ei henwi am resymau cyfreithiol, ei dedfrydu i 15 o flynyddoedd dan glo ym mis Ebrill eleni.
Mae adroddiad newydd a gafodd ei gomisiynu gan Gyngor Sir Gaerfyrddin hefyd wedi canfod bod gan y ferch ddryll BB a chreiriau rhyfel yn ei bag ysgol yn y gorffennol.
Roedd ganddi hefyd ddiddordeb yn y Natsïaid, roedd ganddi ddiddordeb mawr mewn arfau ac roedd yn honni ei bod yn siarad Almaeneg a Rwsieg.
Roedd trafodaeth am ei hatgyfeirio at gynllun gwrthderfysgaeth Llywodraeth y DU ar ôl iddi gael ei darganfod gyda chyllell yn Ysgol Dyffryn Aman yn Rhydaman, Sir Gaerfyrddin, ond ni ddigwyddodd hynny.
Yn ddiweddarach, fe ymosododd y ferch ar yr athrawon Fiona Elias a Liz Hopkin a disgybl ym mis Ebrill y llynedd.
'Monitro'
Roedd yr adroddiad wedi archwilio cyfnod o ddwy flynedd cyn y digwyddiad a dod i'r casgliad er bod llawer o wybodaeth yn hysbys am y ferch, nid oedd wedi ei rannu rhwng gwahanol asiantaethau.
Dywedodd Gladys Rhodes White, awdur yr adroddiad: “Mae Plentyn A yn cael ei gweld fel ‘rhyfedd’ sydd ‘ddim yn hollol ffitio i mewn’, gyda diddordebau anarferol mewn creiriau rhyfel, Hitler, diddordeb mewn arfau, ac mae'n honni ei bod yn siarad Almaeneg a Rwsieg.
“Mae ei thad yn ei disgrifio fel un sy’n dwlu ar ddarllen, ymchwilio i bethau a bod ganddi ddychymyg ffrwythlon, gan greu ffantasïau.
“Yn dilyn y digwyddiad cyntaf gyda chyllell, bu trafodaethau ynghylch a ddylid ei chyfeirio at Prevent, oherwydd pryderon y gallai Plentyn A fod â’r potensial i gael ei radicaleiddio.
“Nid oes unrhyw dystiolaeth i awgrymu ei bod wedi ei chyfeirio yno.
“Er efallai nad oedd Plentyn A wedi bodloni’r meini prawf ar gyfer Prevent, fe wnaeth hyn sbarduno camau i gynnig asesiad cymorth cynnar i ddeall anghenion Plentyn A.
“Gwnaed yr atgyfeiriad hwn, a chysylltodd y tîm â’r tad, a wrthododd yr asesiad.
“Pe bai’r asesiad hwn wedi digwydd, efallai y byddai wedi bod yn llwybr i asiantaethau ystyried cymorth amgen ar ei chyfer, neu i fonitro a chynnig cefnogaeth iddi."

Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd Cyngor Sir Caerfyrddin, yr ysgol, Heddlu Dyfed-Powys a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda eu bod nhw'n bwriadu mynd i'r afael ag argymhellion yr adroddiad.
“Rydym yn cydnabod yr amgylchiadau heriol ac anodd y mae'r dioddefwyr a chymuned gyfan Ysgol Dyffryn Aman wedi'u hwynebu yn sgil y digwyddiad,” medden nhw.
“Hoffem dalu teyrnged i ddisgyblion, athrawon, staff a rhieni Ysgol Dyffryn Aman.
“Mae ymdeimlad cryf o gymuned ac empathi yn yr ysgol wedi galluogi myfyrwyr i ddychwelyd i'w hystafelloedd dosbarth yn brydlon ac yn ddiogel, gyda diogelwch dros eu lles bob amser.”