Cwest yn clywed fod dyn wedi marw yn Eryri ar ôl 'disgyn o uchder'
Mae cwest i farwolaeth dyn ar fynydd yn Eryri wedi clywed ei fod wedi marw o ganlyniad i anafiadau ar ôl disgyn o uchder.
Bu farw Thomas Alan Smith yn 36 oed ar 16 Awst, ar ôl iddo ddisgyn ar fynydd Crib Goch.
Roedd yn gweithio fe plastrwr cyn ei farwolaeth.
Wrth agor y cwest yng Nghaernarfon fore dydd Mercher, dywedodd Sarah Riley, Crwner Cynorthwyol Gogledd Orllewin Cymru, fod Mr Smith wedi teithio o'i gartref yn Mansfield Grove, Bolton i ogledd Cymru ar fore i'r 16eg o Awst gyda'r bwriad o ddringo'r Wyddfa.
"Am tua 11.30 fe gafwyd nifer o adroddiadau i Heddlu Gogledd Cymru am ddyn yn disgyn o Grib Goch," meddai Sarah Riley.
"Cafodd y tîm chwilio ac achub ei alw. Cafodd Mr Smith ei ddarganfod gan y tîm chwilio ac achub ac fe wnaeth meddyg ar eu hofrennydd gadarnhau'n anffodus bod Mr Smith wedi marw.
"Cafodd archwiliad post mortem ei drefnu a'i gwblhau gan y Patholegydd Abdel Salam yn Ysbyty Glan Clwyd. Y casgliad cychwynnol oedd mai achos y farwolaeth oedd anafiadau niferus oedd wedi eu hachosi gan ddisgyn o uchder."
Cafwyd cadarnhad o'r farwolaeth am 12:15 gan y meddyg chwilio ac achub Nile Hume, ac fe gafodd y corff ei adnabod yn ffurfiol i PC Mathew Jones o Heddlu'r Gogledd gan fam Mr Smith.
Cafodd y cwest ei ohirio er mwyn i ymchwiliadau'r awdurdodau gael eu cwblhau.
Codi arian
Mae cymar Mr Smith wedi dechrau apêl i godi arian ar gyfer Tîm Achub Mynydd Llanberis yn dilyn ei farwolaeth.
Dywedodd ei bartner Shelly Price bod y teulu yn dymuno codi gymaint o arian â phosibl ar gyfer y tîm achub, er cof amdano.
"Rydym eisiau sicrhau bod y tîm arbennig hwn o wirfoddolwyr yn medru parhau â'u gwaith allweddol," meddai.
"Ar 16 Awst, roedd fy mhartner a thad ein plant, Tom yn cerdded yn un o'r llefydd yr oedd yn ei garu fwyaf, sef Parc Cenedlaethol Eryri, pan yn anffodus, fe gollodd ei fywyd.
"Ymhlith y nifer o unigolion dewr a oedd yno i helpu Tom, roedd Tîm Achub Mynydd Llanberis.
"Roedden nhw yn allweddol wrth sicrhau fod Tom yn cael gofal, ac yn cael ei achub oddi ar y mynydd, er mwyn iddo fedru dod yn ôl at ei deulu."
Mae mwy na £4,200 eisoes wedi ei godi ar gyfer y tîm achub.
Ymchwiliad
Yn dilyn marwolaeth Mr Smith, dywedodd yr Arolygydd Jamie Owens o Heddlu'r Gogledd: "Mae fy nghydymdeimlad dwysaf yn parhau gyda theulu'r dyn yn yr amser anodd hwn.
"Mae ein hymchwiliad i amgylchiadau'r digwyddiad trasig hwn yn parhau.
"Rydym yn apelio ar unrhyw un a allai fod wedi gweld y cwymp i gysylltu â'r heddlu trwy ein gwefan neu drwy ffonio 101, gan ddyfynnu rhif cyfeirnod 25000678802."